English icon English

Ymateb Gweinidog Economi Cymru i’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni sydd wedi’i chyflwyno gan Lywodraeth y DU

Welsh Economy Minister's response to UK Government Energy relief Bill Scheme

Wrth ymateb i’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni sydd wedi’i chyflwyno gan Lywodraeth y DU, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Bydd y cyhoeddiad heddiw yn lleddfu rhywfaint ar y  pwysau sydd ar fusnesau a dw i am bwyso ar Lywodraeth y DU i basio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn gyflym fel bod y gostyngiadau llawn yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid annomestig, a hynny heb unrhyw oedi.

"Er ein bod yn croesawu’r cymorth hwn, efallai na fydd yn ddigon i lawer o fusnesau bach a chanolig Cymru sy'n wynebu biliau ynni a fydd hyd at chwe gwaith yn uwch nag ar hyn o bryd. Mae cyfran uchel o'r busnesau hyn yn ei chael yn anodd eisoes gadw’u pennau uwchlaw’r dŵr ar ôl y pandemig.

"Busnesau bach Cymru yw asgwrn cefn ein cymunedau, gan ddarparu swyddi ac incwm hanfodol i bobl leol, ac maen nhw’n rhan o'n heconomi sylfaenol. Os bydd y busnesau hyn yn methu, byddwn yn gweld mwy o ddiweithdra, mwy o bobl agored i niwed, a tharfu ar gadwyni cyflenwi pwysig.

"Dim ond seibiant dros dro mae’r mesurau’n eu rhoi i fusnesau a fawr ddim   sicrwydd i'w helpu i gynllunio ymlaen llaw. Bydd nifer ohonyn nhw’n gorfodi cau os nad ydyn nhw'n cael digon o gefnogaeth. Dw i’n galw, felly, ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i gynllun mwy hirdymor i roi mwy o sicrwydd er mwyn i fusnesau fedru ymdopi â chostau ynni sy’n gyson uchel.

"Rydyn ni’n craffu'n agos ar y cymorth a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth y DU i weld a oes mwy gallwn ni ei wneud i gefnogi busnesau Cymru. Mae hynny’n cynnwys edrych ar ffyrdd o helpu busnesau i leihau'u defnydd o ynni neu i fod yn fwy effeithlon o ran ynni.

"Fodd bynnag, gadewch inni fod yn glir, yn nwylo Llywodaeth y DU, ac yn ei dwylo hi yn unig, mae’r prif fesurau ysgogi i gefnogi busnesau."