Skip to main content

Caerphilly is blooming with help from TfW

29 Medi 2022

Mae gwirfoddolwyr o grŵp garddio U3A Caerffili yn dathlu yn dilyn 'Caerffili yn ei Blodau' yn ennill Gwobr Aur yn y categori 'Canol Dinas a Thref' yng ngwobrau diweddar Cymru yn ei Blodau 2022.

Cefnogodd Prosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru, mewn partneriaeth ag U3A Caerffili, gais tref Caerffili i gystadlu yn nigwyddiad Cymru yn ei Blodau 2022.

Gyda chefnogaeth prosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru, a ddarparwyd gan Rheilffyrdd Cymunedol a Chymdeithas Gyrwyr Tacsi Caerffili, helpodd y grŵp garddio i ddylunio a chynnal blodau newydd a blannwyd ar hyd y fynedfa i orsaf reilffordd y dref, fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Gyda’i gilydd mae Trafnidiaeth Cymru ac U3A Caerffili wedi gwella’r ardal balmantog sy’n cysylltu’r orsaf reilffordd â’r dref gan blannu cyfres o blanhigion peillio a rhai sy'n gwella’r synhwyrau.  Mae’r blodau newydd sbon y tu allan i’r orsaf wedi helpu i adfywio’r ardal a hybu bioamrywiaeth, gan ddod â natur yn nes at y gymuned.

Dywedodd Dr Louise Moon, rheolwr rhaglen datblygu cynaliadwy Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o gais llwyddiannus y dref ac mae'n gydnabyddiaeth wych i'r gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i gynnal a chadw'r blodau yn yr orsaf. 

“Gweithio gyda’n grwpiau cymunedol a’n gwirfoddolwyr yw hanfod datblygiad cynaliadwy ein rhwydwaith yr ydym yn anelu at ei gyflawni yn ein holl waith.  Mae gallu cyfathrebu a chydweithio ar brosiectau, mawr a bach, yn creu gwell cyfleoedd i wneud gwelliannau sy'n cael effeithiau hirdymor ar ein cymdogion, y bywyd gwyllt lleol  a Chymru.

Mae gallu adnewyddu’r ardal yng ngorsaf reilffordd Caerffili mewn cydweithrediad ag U3A Caerffili yn enghraifft o’r hyn y gallwn ei gyflawni i

Dywedodd llefarydd ar ran U3A Caerffili: “Dewiswyd y cynllun planhigion a phlannu gan y grŵp i ddarparu ffurf, lliw a chanfyddiad synhwyraidd cynaliadwy trwy gydol y flwyddyn gyda llwyni bach, planhigion lluosflwydd a phlanhigion blodeuol cynnar wedi'u tanblannu â bylbiau a pherlysiau cydnerth.  Roedd dewis y blodau  yn dipyn o her o ystyried bod y gaeaf ar ein gwarthaf ac ychwanegwyd planhigion pellach i ddod â lliwiau diwedd y gwanwyn a'r haf gyda phlanhigion persawrus i ddenu peillwyr.

“Fe wnaethon ni ddylunio’r ardal i greu amgylchedd braf, cynnes a lliwgar i’r holl ymwelwyr a phreswylwyr gan ddefnyddio prif borth y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i dref Caerffili a’i chastell godidog.

“I’r gwirfoddolwyr, mae gallu creu a chefnogi  awyrgylch dymunol a chroesawgar i bawb sy’n ymweld â’n tref, mae cymryd rhan yn y prosiect yn brofiad hynod pleserus a gwerth chweil.”

Dyfarnwyd £100,000 i Drafnidiaeth Cymru gan gynllun Lleoedd Lleol i Natur Llywodraeth Cymru sy’n cael ei redeg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella bioamrywiaeth leol yn ei orsafoedd rheilffordd a gerllaw.

Fel rhan o'r prosiect Llwybrau Gwyrdd, rydym yn cyflwyno nodweddion gwyrdd mewn 25 o'n gorsafoedd ac mewn pum ardal gymunedol.  Bydd y gwelliannau'n cynnwys planwyr a blychau bywyd gwyllt i hybu bioamrywiaeth leol ar draws y rhwydwaith.

Gallwch ddarllen mwy am ein prosiect Llwybrau Gwyrdd, a phrosiectau eraill yn ein cymunedau ar ein gwefan yn   https://tfw.wales/about-us/sustainable-development/prosiectau