- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
22 Ion 2024
Rydym yn gweithio i uwchraddio’r ffordd fynediad i faes parcio’r orsaf a Depo newydd Ffynnon Taf.
Bydd hyn yn golygu cau rhan o Ffordd Bleddyn rhwng cylchfan depo New Adventure a’r orsaf reilffordd am gyfnod byr a thros dro, ar y penwythnosau canlynol:
O 7yh ar ddydd Gwener 2 Chwefror i 6yb ddydd Llun 5 Chwefror
O 7yh ddydd Gwener 9 Chwefror tan 6yb ddydd Llun 12 Chwefror
O 7yh ddydd Gwener 16 Chwefror tan 6yb ddydd Llun 19 Chwefror
Bydd y ffordd ar agor i gerddwyr, a'r orsaf i deithwyr, fodd bynnag bydd angen i'r rhai sy'n gyrru i'r orsaf gynllunio ymlaen llaw a defnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio eraill, megis yng ngorsaf Radur. Bydd hefyd nifer fach o leoedd parcio yn Delyn Warehousing yn Ffynnon Taf.
Bydd mynediad i gerbydau hyd at y gylchfan ac i mewn i'r ystâd ddiwydiannol yn parhau yn ei le.
Mae rhan fwyaf deheuol Ffordd Bleddyn rhwng yr orsaf a’r gyffordd â Heol Caerdydd, sydd bellach yn gweithredu fel pont dros y rheilffordd i’r Depo, yn parhau ar gau tan Gwanwyn 2024.
Cyn i Ffordd Bleddyn ailagor yn llwyr yn Gwanwyn, byddwn yn gweithio i gael gwared ar y llwybrau troed presennol a gosod rhai newydd yn eu lle yn ogystal â gwneud gwaith diddosi a draenio. Er mwyn sicrhau y gallwn wneud hyn yn ddiogel, byddwn yn rhoi rheolaeth traffig dros dro ar waith ar gyffordd Ffordd Bleddyn / Ffordd Caerdydd / Heol y Fynwent o 5 Chwefror.
Bydd hefyd rhai cynlluniau i gau Heol Caerdydd dros dro, dros nifer o benwythnosau yn gynnar eleni, er mwyn galluogi’r gwaith draenio hwn ymhellach. Byddwn yn rhoi rhybudd i'r gymuned cyn y gwaith yma.
Coch – cau dros dro ar benwythnosau ym mis Chwefror
Oren – ar gau tan Gwanwyn 2024