Mid & W Wales Fire News

30 Jan 2024

Angylion Tân yr Antarctig yn Cwblhau Eu Hantur Ryfeddol

Antarctic Fire Angels Complete Their Extraordinary Expedition

Angylion Tân yr Antarctig yn Cwblhau Eu Hantur Ryfeddol: AFA 03-3

Mae’r diffoddwyr tân Rebecca Openshaw-Rowe o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Georgina Gilbert o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cwblhau eu hantur ryfeddol i’r Antarctig.

Cychwynnodd Rebecca a Georgina – neu Angylion Tân yr Antarctig, fel maen nhw’n cael eu hadnabod – ar eu hantur ar ddechrau Tachwedd 2023 gan gyrraedd pen eu taith ar Ionawr 12 2024.  Maen nhw wedi cerdded a sgïo dros 1,200km mewn 52 diwrnod, o arfordir Antarctica i Begwn y De – sy’n cyfateb i 29 marathon!

Angylion Tân yr Antarctig yw’r bobl gyntaf erioed i gwblhau’r llwybr yr oedden nhw wedi’i ddewis ac nid oedd unrhyw un yn eu tywys na’u cynorthwyo wrth iddyn nhw dynnu eu cyflenwadau eu hunain a’u slediau offer – pob un yn pwyso dros 100kg. Yn ogystal â chwmpasu'r pellter anhygoel hwn, maen nhw wedi gorfod dioddef amodau eithafol y lle oeraf ar y Ddaear – gyda’r tymheredd yn cyrraedd mor isel â -30°C a chyflymder gwynt o hyd at 60mya.

Cymerodd eu hantur dros bedair blynedd o gynllunio a hyfforddi gofalus, ac un o’r prif nodau oedd herio stereoteipiau rhywedd ac ysbrydoli cenedlaethau o fenywod yn y dyfodol. 

Mae Rebecca a Georgina yn fodelau rôl gwych i fenywod a merched ddilyn gyrfa ym mha bynnag faes y maen nhw’n ei ddewis ac maen nhw wedi rhoi cyngor a chymorth i fenywod sy’n mynd drwy’r broses recriwtio diffoddwyr tân.

Mae Angylion Tân yr Antarctig hefyd wedi bod yn codi arian pwysig ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân – sy’n rhoi cymorth gydol oes i aelodau gwasanaethau tân ac achub y DU sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol - ac mae eu Tudalen JustGiving  yn dal i dderbyn rhoddion.  

Gallwch edrych yn ôl ar daith Angylion Tân yr Antarctig drwy dudalen olrhain eu taith, sy'n rhoi trosolwg o'u llwybr i Begwn y De ynghyd â blogiau fideo a recordiwyd ganddyn nhw ar hyd y ffordd.

Mae pawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn llongyfarch Rebecca a Georgina ar eu llwyddiant anhygoel.

AFA 08-2

AFA 07-2

AFA 09-2

AFA 04-3

Gwybodaeth Cyswllt

Steffan John
Communications Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226853
07805330632
steffan.john@mawwfire.gov.uk