29 Jan 2024
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal Diwrnod Profiad yng Ngorsaf Dân Y Drenewydd ar 7 Chwefror 2024, am 10:00yb - 13:00yp.
Nod ein Diwrnod Profiad teirawr yw rhoi cyfle i bobl gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiol rolau a gofynion mynediad yn y Gwasanaeth Tân, ac am y rôl ehangach y mae'r Gwasanaeth Tân yn ei chwarae yn y gymuned, gan gynnwys:
- Rôl diffoddwr tân modern
- Rhoi cit a chyfarpar y diffoddwyr tân amdanoch
- Y gwahanol agweddau ar y broses recriwtio
- Pwysigrwydd ffitrwydd a chynnal ffitrwydd
- Y gwahanol fathau o gyfarpar a chyfarpar diogelu personol
- Llwybrau gyrfa a mapiau rolau
Dyma'r cyfle perffaith i weld yr hyn y mae diffodd tanau yn ei olygu!
MAE ARCHEBU'N HANFODOL
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.tancgc.gov.uk/cym/ymunwch-a-ni/diwrnod-profiad/
I archebu eich lle ewch i: Experience Day- Give it a Go - Become a Firefighter Tickets, Wed, Feb 7, 2024 at 10:00 AM | Eventbrite
🔥 #BeAFirefighter #YouCan #WeNeedYOU 🚒
Lily Evans
Digital Marketing Officer
Mid and West Wales Fire and Rescue Service
lily.evans@mawwfire.gov.uk