English icon English

Llywodraeth Cymru'n parhau i gyllido cynlluniau e-feiciau llwyddiannus

Welsh Government extends funding for successful e-cycle schemes

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dau gynllun ar gyfer benthyca e-feiciau sydd wedi llwyddo i annog mwy o drigolion lleol i gyfnewid eu car am feic mewn cymunedau ar draws Cymru yn derbyn arian ychwanegol am flwyddyn arall.

Mae'r cynllun E-Move sy'n cael ei weithredu gan gynllun 'See Cycling Differently' Sustrans a Pedal Power ill dau wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru ers 2021 ac mae nifer sylweddol o bobl wedi defnyddio eu gwasanaeth.

Mae Sustrans yn cynnig e-feiciau amrywiol sy’n defnyddio batri am ddim, ar fenthyciad tymor canolig, i drigolion lleol nad ydynt yn beicio’n rheolaidd neu sy’n teimlo bod cost e-feiciau yn rhwystr i'w defnyddio.

Amcangyfrifir bod y cynllun sy'n gweithredu mewn pum lleoliad ar draws Cymru - y Rhyl, Abertawe, Y Drenewydd (sydd â chysylltiadau ag Aberystwyth) a'r Barri - wedi arbed 600kg o CO2 yn ei flwyddyn gyntaf, gyda defnyddwyr yn adrodd gostyngiad o 39% mewn teithiau car ac effaith gadarnhaol o 76% ar eu lles.

Mae prosiect 'See Cycling Differently' Pedal Power, sy’n anelu at gynyddu cynwysoldeb beicio drwy gynnig ystod o e-feiciau, hefyd wedi profi llwyddiant tebyg gyda chynnydd yn nifer y defnyddwyr rheolaidd o e-feiciau ac e-feiciau wedi’u haddasu a mwy o bobl yn manteisio ar sesiynau blasu gydag e-feiciau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters:

"Rwyf wrth fy modd bod y cynlluniau hyn sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o bobl i gyfnewid eu car am feic ar gyfer teithiau byrrach.

"Mae beicio yn well i'r amgylchedd ac mae hefyd yn llawer rhatach na rhedeg car ac yn wych i'ch iechyd meddwl a chorfforol hefyd - fel beiciwr rheolaidd, rwy'n gwybod bod hyn yn wir. Dylech chi roi cynnig arni!"

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Sustrans, Liz Rees,

"Ers 2021, mae prosiect E-Move wedi helpu pobl mewn pum cymuned ddifreintiedig ar draws Cymru i gael mynediad at e-feiciau a’u benthyca am ddim.  Mae hyn wedi golygu bod pobl sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael, diffyg mynediad at geir, a chyflyrau sy’n gysylltiedig ag oedran ac iechyd wedi gallu teithio a chael mynediad at fannau gwyrdd. Nododd 70% o’r cyfranogwyr effaith gadarnhaol ar eu hiechyd, a 76% effaith gadarnhaol ar eu lles. Amcangyfrifir bod cyfranogwyr a sefydliadau wedi arbed 600kg o CO2 ym mlwyddyn gyntaf y prosiect drwy ddefnyddio e-feiciau a beiciau e-cargo yn lle ceir neu faniau.

"Mae Sustrans yn hapus iawn ei fod wedi derbyn blwyddyn arall o gyllid ar gyfer y prosiect E-Move yn 2023/24. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhlith buddiolwyr y prosiect, ymgorffori'r prosiect ar draws ein cymunedau ffocws, a helpu gyda threfniadau gwaddol fel y gallwn drosglwyddo perchnogaeth o'r e-feiciau i'r cymunedau lleol pan ddaw'r prosiect i ben."

Un o'r busnesau sydd wedi elwa o gynllun Sustrans yw Rosa's Bakery yng Nghastell-nedd sy'n defnyddio e-feiciau i ddosbarthu bara i'r gymuned. Meddai Cyfarwyddwr y Cwmni, Chris Cundill, ,

"Mae hwn yn ffordd wych o gael ein bara allan i'r bobl sydd efallai methu cyrraedd y becws am ba bynnag reswm, a phan ddaethon ni i wybod am y cynllun yma, roedden ni wrth ein boddau oherwydd mae'n dipyn o risg a rydych eisiau gweld a fydd yn llwyddo, rydych chi'n meddwl a fydd hyn yn gweithio yn ein lleoliad? Roedden ni wedi clywed am rai pobol yn Llundain yn defnyddio'r model yma, ond rydyn ni yng Nghastell-nedd, felly rydych yn meddwl a fydd yr un egwyddor yn gweithio yma, a 'da ni wrth ein boddau bod lot o gynnwrf yn ei gylch yn barod."

Dywedodd Sian Donovan, Cyfarwyddwr Pedal Power Cycling Centre & Bike Hire,

"Mae ein prosiect SeE Cycling Differently, gydag e-feiciau wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn ychwanegiad gwych i'n fflyd o feiciau a threiciau, gan gynnig mwy fyth o opsiynau ar gyfer beicio i feicwyr hŷn ac anabl. Rydym yn falch iawn bod y prosiect wedi'i ymestyn (rydym wrthi’n prynu e-dreic llaw) gan ein bod wedi derbyn adborth mor gadarnhaol wrth i bobl roi cynnig ar yr e-feiciau, yr e-dreiciau a’r beiciau cargo.

"Rydym bob amser yn pwysleisio bod yr e-feic cymorth ar gael, nid i leihau gweithgarwch, ond i gefnogi beicio yn bellach ac ar lwybrau mwy serth – gan alluogi pobl i gadw’n actif (gyda'r holl fanteision iechyd) a mwynhau! Mae ein nod i leihau unrhyw rwystrau i feicio wir wedi cael hwb gyda'n e-fflyd ac rydym am annog cymaint o bobl â phosibl i ddod i'w rhoi ar brawf a gweld y gwahaniaeth y gall e-feic ei wneud i'ch bywyd. Rydym yn cynnig sesiynau blasu i grwpiau ac unigolion ynghyd â threfniadau llogi a benthyciadau tymor byr a thymor hir felly cofiwch gysylltu a mynd ati i feicio!"