Skip to main content

TfW launch brand new South Wales Metro trains

29 Maw 2023

Cafodd y cyntaf o drenau Metro De Cymru newydd sbon ei lansio heddiw gan y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Lee Waters AS mewn seremoni yng Nghaerffili, gan nodi dechrau cyfnod trafnidiaeth newydd.

Mae’r Trenau Dosbarth 231 Fast Light Intercity and Regional Trains (FLIRTs), a adeiladwyd gan y gwneuthurwr blaenllaw Stadler, yn rhan o’r buddsoddiad gwerth £800 miliwn y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Gan ddarparu mwy o gapasiti gyda mwy a gwell seddi, aerdymheru modern, socedi pŵer a sgriniau gwybodaeth i deithwyr gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am deithio, bydd y trenau newydd yn trawsnewid profiad y cwsmer.

Gyda’r un cyntaf wedi’i lansio’n swyddogol ar reilffordd Cwm Rhymni heddiw, bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflwyno 35 o’r trenau hyn ledled De Cymru dros y blynyddoedd nesaf, ynghyd â 36 o drenau tram trydan.

Bydd gan bob trên le ar gyfer hyd at chwe beic a modd mynd ar y tren ar yrun lefel a'r platfform sy'n awtomatig i gynorthwyo'r rhai â symudedd cyfyngedig.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd,, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Mae teithio ar y cerbydau newydd hyn yn brofiad mor wahanol i deithio ar yr hen gerbydau. Mae mwy o le, mae'n llawer mwy cyfforddus ac mae'n dawelach ac yn llyfnach. Dewch i roi cynnig arnyn nhw.”

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Dyma garreg filltir allweddol arall i Trafnidiaeth Cymru, a bydd y trenau Dosbarth 231 newydd sbon hyn yn trawsnewid profiad y cwsmer ac yn arwydd o gyflawniad cyntaf Metro De Cymru.  Mae pobl bellach yn dechrau gweld trawsnewid ar draws ein rhwydwaith gyda chyflwyno trenau modern, newydd sbon a fydd yn denu pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

“Fe wnaethon ni gyflwyno ein CAF Dosbarth 197 i’r rhwydwaith ar ddechrau’r flwyddyn ac rydyn ni’n falch heddiw i lansio trên newydd sbon arall sef trên Stadler Dosbarth 231. Mae Metro De Cymru yn brosiect graddol ac mae heddiw’n dynodi ei fod bellach yn dechrau cael ei gyflawni.”

Ychwanegodd Urs Bikle, Pennaeth Peirianneg Stadler yn Bussnang: “Mae Stadler yn falch iawn o weld y cyntaf o’r 71 o drenau rydyn ni’n eu darparu ar gyfer Cymru a’r Gororau yn dechrau gwasanaethu teithwyr heddiw. Mae tri deg pump o'r rhain yn FLIRTs, ein cynnyrch sy'n gwerthu orau, ac o'r rhain rydym wedi gwerthu 2,500 mewn 21 o wledydd.

“Wedi'u dylunio gyda'r teithiwr mewn golwg, mae ganddyn nhw lefelau uchel o gysur, perfformiad gweithredol, dibynadwyedd ac amlbwrpasedd. Mae nodweddion mynd ar y tren lefel ym mhob rhan o’r trên i’w gwneud hi’n haws i bawb fynd ar ac oddi ar y tren, mae dyfeisiau a chydrannau sy’n gyfeillgar i gynnal a chadw yn cadw costau gweithredu’n isel, ac mae cregyn alwminiwm ysgafn yn hybu effeithlonrwydd amgylcheddol.”

Nodiadau i olygyddion


Gwahoddir y cyfryngau i lansiad swyddogol y tren Dosbarth 231 yng ngorsaf Caerffili am 10am ddydd Mercher 29 Mawrth. I gadarnhau eich bod am ddod i'r digwyddiad, e-bostiwch   media@tfw.wales   

Llwytho i Lawr