English icon English

Pwerau newydd yn dod i rym i awdurdodau lleol fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwag

New powers for local authorities to address impact of second and empty homes come into force

Daw rheolau treth lleol newydd i rym heddiw a fydd yn rhoi gwell cefnogaeth i gymunedau Cymru fynd i’r afael â’r lefelau uchel o ail gartrefi ac eiddo gwag.

Mae’n nodi carreg filltir arall yn y gwaith o weithredu cyfres o fesurau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o ymrwymiad Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwag ar gymunedau ar hyd a lled y wlad.

Mae’r rheolau wedi dod i rym yn dilyn ymgynghoriadau yn genedlaethol ac yn lleol, sy’n golygu y gall awdurdodau lleol nawr roi eu hysgogwyr cryfach ar waith.

Mae’r mesurau’n rhan o ymdrechion i sicrhau y caiff bawb gyfle i fyw yn eu cymuned leol, ac i geisio gwella argaeledd a fforddiadwyedd tai rhent a thai i’w prynu ar gyfer y rhai ar lefelau incwm lleol.

Mae gan awdurdodau lleol yr hawl bellach i osod a chasglu premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300% – i fyny o 100% – a gall cynghorau benderfynu ar lefelau yn seiliedig ar eu hanghenion lleol.

Mae pum cyngor wedi cynyddu’r premiwm y maent yn ei godi ar ail gartrefi yn 2023-24, gyda saith arall yn bwriadu cyflwyno premiwm o fis Ebrill 2024.

Mae tri chyngor wedi cynyddu’r premiwm ar eiddo gwag hirdymor yn 2023-24, gyda phedwar arall yn cyflwyno premiwm am y tro cyntaf, a dau arall yn bwriadu cyflwyno premiwm ym mis Ebrill 2024.

Mae’r meini prawf ar gyfer gwneud lletyau gwyliau yn atebol i dalu ardrethi annomestig yn lle’r dreth gyngor hefyd wedi’u cryfhau, gyda’r bwriad o ddangos yn gliriach bod eiddo’n cael eu gosod yn rheolaidd fel rhan o fusnes lletyau gwyliau gwirioneddol sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol.

I gyd-fynd â’r newid hwn, cyflwynwyd canllawiau statudol diwygiedig i awdurdodau lleol, a chyflawnwyd yr ymrwymiad i gyflwyno eithriadau pellach i’r rheoliadau yn y Senedd.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae’r newidiadau i’r system dreth leol yn ffurfio rhan o becyn ehangach o fesurau sy’n cael eu cyflwyno – yn y systemau cynllunio, eiddo a threthiant – i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n effeithio ar gymaint o gymunedau yng Nghymru. Yn y pen draw, mae’r newidiadau hyn yn ymwneud â thegwch. Rydym eisiau sicrhau bod gan gynghorau bwerau i’w galluogi i sicrhau’r cydbwysedd cywir o ran y cyflenwad tai lleol.”

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Sian Gwenllian AS:

“Rwy’n falch bod cymaint o awdurdodau lleol ym mhob rhan o’r wlad yn ymateb yn gadarnhaol i’r ysgogwyr sydd wedi’u cyflwyno. Hoffwn ddiolch i’r rheini ar draws Cymru sydd wedi gweithio’n galed i symud yn gyflym, yn sgil yr argyfwng tai a’r argyfwng costau byw. Yn y pen draw, mater o degwch i bobl leol a’r rheini ar incwm isel yw hyn. Bydd y cyllid ychwanegol sy’n cael ei gynhyrchu gan y premiymau newydd yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth – gan gynnwys gwella argaeledd tai fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd wedi’u prisio allan o’u cymunedau ar hyn o bryd.”

Mae dosbarthiadau defnydd cynllunio newydd nawr ar waith, yn ogystal â’r gallu i awdurdodau lleol wneud diwygiadau lleol i’r system gynllunio os oes tystiolaeth i gefnogi hynny.

Cyhoeddwyd cynigion ar gyfer cynllun trwyddedu statudol newydd i ddarparwyr lletyau i ymwelwyr ar gyfer ymgynghoriad cyn y Nadolig, ac mae hyd at £60 miliwn yn cael ei ddyrannu i ailddefnyddio cartrefi gwag fel rhan o Gynllun Cartrefi Gwag cenedlaethol.

Gwneir ymrwymiad hefyd i alluogi codi treth trafodion tir uwch wrth brynu ail gartrefi a lletyau gwyliau tymor byr, yn ogystal â cham gweithredu penodol i ddiogelu cymunedau Cymraeg eu hiaith gan gynnwys ‘cynllun cyfle teg’ gwirfoddol i roi’r dewis i werthwyr farchnata eiddo yn lleol yn unig am gyfnod penodol o amser. Mae gwaith hefyd ar y gweill ar Bapur Gwyn Eiddo a Rhenti Teg.

Ychwanegodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae’r heriau a all ddod yn sgil lefelau uchel o ail gartrefi a lletyau tymor byr yn gymhleth, a does dim ateb cyflym. Mae’r ystod eang o fesurau rydym wedi’u cyflwyno – ym meysydd treth, cynllunio, cartrefi gwag a’n hymrwymiad i drwyddedu statudol – heb eu tebyg fel pecyn yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i helpu pobl i fyw’n fforddiadwy yn eu cymunedau lleol.”