- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
13 Ebr 2023
MAE'N 8pm ar noson fwyn o wanwyn ac yng ngorsaf reilffordd Caerfyrddin, mae'r tîm glanhau yn paratoi i fynd i'r gwaith.
Yn eu plith, mae William Gwyn Thomas, un o selogion y tîm, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed, carreg filltir sylweddol.
Er ei fod newydd gael ei ben-blwydd yn 80 oed, mae Gwyn, fel y mae'n well ganddo gael ei adnabod, yn dal i weithio mor galed ag erioed. Gyda brws llawr yn un llaw a mop yn y llaw arall, bydd ef a'r tîm yn glanhau rhwng 18 a 26 o gerbydau a byddant fel pin mewn papur yn barod ar gyfer y bore canlynol.
“Rwyf wrth fy modd yn y swydd hon,” meddai Gwyn, sydd wedi bod yn glanhau trenau yng Nghaerfyrddin ers 25 mlynedd.
“Rwy’n gweithio gyda chriw rhagorol, pob un ohonom yn gwasanaethu ein cwsmeriaid yn y modd gorau posibl.
“Balchder yw popeth ac rydym yn falch iawn o sicrhau bod y trenau fel pin mewn papur ar gyfer y cwsmeriaid fydd yn eu defnyddio drannoeth.”
Ar ôl gweithio fel ffermwr llaeth ger Llambed nes ei fod yn 55 oed, penderfynodd Gwyn newid cyfeiriad. Ar ddiwedd y 1990au, fe ymunodd â thîm glanhau Caerfyrddin, tîm oedd yn llawer llai bryd hynny.
“Roeddwn mor hapus i gael cynnig y swydd – doeddwn i’n methu credu fy mod wedi bod yn llwyddiannus. Mae gweithio fel rhan o dîm glanhau Caerfyrddin yn golygu llawer iawn i mi - mae Caerfyrddin yn orsaf arbennig iawn.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn yn 80 oed ac yn dal i weithio ond rydw i wrth fy modd a fydda’ i ddim yn rhoi’r gorau iddi nes y bydda i’n barod i wneud hynny, ddim cyn hynny,” ychwanegodd Gwyn sydd â thri o blant - dau ei hun a llysferch, tri o wyrion a phedwar gor-ŵyr.
Mae Gwyn yn credu mai “bwyta’n dda, peidio ag yfed dim byd cryfach na shandi a rhoi'r gorau i 'smygu” yw’r rheswm am ei hir oes.
Gan weithio rhwng 7:30pm a 2:30am, bydd y tîm yn glanhau pob cerbyd yn drwyadl, gan adael y cabiau, y toiledau, y byrddau a'r lloriau fel pin mewn papur.
Tra mai nos Sadwrn sy’n tueddol i fod y shifft anoddaf, pan fo mynd ati i lanhau’r toiledau’n gallu bod yn eithaf heriol ynghyd â’r sbwriel y mae pobl yn ei adael, dywed Gwyn mai’r unig beth i’w wneud yw bwrw ati a chymryd un dydd ar y tro.
“Mae’n rhwystredig ond does dim pwynt cwyno - dyna naws y swydd ac mae’n rhaid dal ati. Mae'n rhaid cadw’r cerbydau yn lân ar gyfer ein cwsmeriaid – dyna ein dyletswydd.”
Talodd Wendy Jones, Rheolwr Gweithrediadau Glanhau TrC a James Nicholas, Rheolwr Gorsaf Caerfyrddin deyrnged i Gwyn, gan ei ddisgrifio fel “un o hoelion wyth gorsaf Caerfyrddin”.
“Mae safon y gwaith y mae Gwyn yn ei wneud nos ar ôl nos yn enghraifft wych o rywun sy’n ymfalchïo yn eu gwaith,” dywed y ddau.
“Hoffem ddiolch i Gwyn am bopeth â wna a dymuno penblwydd hapus iawn iddo.”