English icon English

Llwybr Teithio Llesol a gwelliannau i'r A55 gwerth £30 miliwn yn cael eu hagor yn swyddogol

£30m Active Travel route and A55 improvements officially opened

Mae cwblhau'r gwaith diogelwch a'r gwelliannau ar ran Aber Tai’r Meibion o'r A55, sy'n cynnwys llwybr teithio llesol newydd, wedi cael ei gydnabod yn swyddogol gan Weinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.

Mae'r cynllun £30 miliwn, sy'n cynnwys £20.7 miliwn gan yr UE, yn mynd i'r afael â'r risg uwch o lifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd, ac mae hefyd yn gwella diogelwch ar y rhan hon o'r ffordd, oedd dros 50 mlwydd oed. Roedd y gwaith yn cynnwys cau wyth bwlch yn y llain ganol lle roedd cerbydau amaethyddol yn arfer croesi.  

Mae hefyd wedi darparu pedwar cilometr o lwybr teithio llesol newydd a gwell yn cysylltu Abergwyngregyn â Thal-y-bont, Llanfairfechan a Llwybr 5 o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar ôl ymgynghori â thrigolion Abergwyngregyn.  Mae grwpiau beicio wedi croesawu'r datblygiad.

Cafodd dwy lôn o draffig eu cadw ar agor ar yr A55 drwy gydol y gwaith.

Wrth ddadorchuddio plac i gydnabod cwblhau'r cynllun yn swyddogol, dywedodd Lesley Griffiths: "Mae'r cynllun hwn wedi darparu gwelliannau gwirioneddol i'r rhan hon o'r A55, gan ei gwneud yn fwy diogel ar gyfer y cyhoedd wrth iddyn nhw deithio, a chynyddu ei gallu i wrthsefyll newid hinsawdd.  Rydyn ni'n gwybod bod y rhan hon wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol, a bydd y gwaith sydd bellach wedi cael ei gwblhau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth amddiffyn y ffordd.

"Rwyf hefyd yn falch iawn o weld y llwybr teithio llesol sy'n darparu cysylltiad hanfodol ar gyfer beicwyr a cherddwyr ar ran o'r llwybr hwn sy'n arbennig o hardd.  Mae'n dda gweld bod llawer o feicwyr eisoes yn defnyddio'r llwybr.

"Hoffwn i ddiolch i bawb oedd yn rhan o'r gwaith o wneud y gwelliannau pwysig hyn i gynyddu diogelwch, cydnerthedd a chyfleoedd ar gyfer teithio llesol."

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â Chyfrifoldeb am Drafnidiaeth, Lee Waters:  “Mae hyn yn newyddion gwych. Nid yn unig bydd y buddsoddiad hwn yn amddiffyn y rhan hon o'r ffordd rhag llifogydd, ond bydd hefyd yn annog rhagor o bobl i wneud teithiau lleol ar eu beiciau yn hytrach nac yn eu ceir, gan eu galluogi i wella eu hiechyd a'u lleisiant eu hun, a diogelu ein hamgylchedd ar yr un pryd." 

Dywedodd John Mather o Cycling UK: "Mae Cycling UK yn gwerthfawrogi yn fawr iawn yr ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a Chontractwyr Griffiths i ddarparu cyfleusterau newydd a gwell (llwybrau ar ac oddi ar y ffordd) ar gyfer beicwyr sy'n defnyddio Llwybr 5 o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, fel rhan o'r gwelliannau i'r A55 a gafodd eu cwblhau yn ddiweddar rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion.

"Bydd y llwybrau newydd a gwell hyn yn gwneud llawer i wella diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau bod beicio ar hyd arfordir gogledd Cymru yn fwy uniongyrchol, deniadol a chyfforddus ar gyfer pawb sy'n beicio (teithwyr llesol, clybiau beiciau a'r rhai sy'n beicio ar gyfer ymarfer corff neu hamdden). Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, ac at eu helpu i ddarparu system drafnidiaeth integredig, hygyrch a chynaliadwy."

Dywedodd Richard Tidmarsh, Cyfarwyddwr Seilwaith Griffiths: "Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o'r prosiect hwn a bod wedi chwarae rôl wrth gwblhau'r cynllun yn llwyddiannus. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud pa mor ddiolchgar ydw i i'n holl bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol a rhanddeiliad sydd wedi gweithio gyda ni i wneud y diwrnod hwn yn bosibl. Hoffwn i hefyd ddiolch i'n timau adeiladu, sydd wedi gweithio'n ddi-flin i sicrhau bod y prosiect hwn wedi cael ei gwblhau i'r safonau uchaf."

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros y Priffyrdd, Peirianneg a Gwasanaethau YGC: "Mae wedi bod yn fraint helpu Llywodraeth Cymru i gwblhau'r cynllun gwella ar yr A55 rhwng Cyffyrdd 12 a 13.

"Mae ein Peirianwyr a'n Hecolegwyr wedi bod yn goruchwylio'r gwelliannau diogelwch ar y rhan 2.2 cilometr o'r ffordd ddeuol, sy'n cynnwys cael gwared ar fynediad uniongyrchol oddi ar yr A55, yn ogystal â chau'r wyth bwlch yn y llain ganol a oedd yn caniatáu i gerbydau araf groesi'r A55.

"Rydyn ni'n awyddus i weld rhagor o bobl yn dewis teithio drwy gerdded neu feicio, felly mae wedi bod yn bleser cyfrannu at wella dros bedwar cilometr o gyfleusterau teithio llesol newydd a gwell.

"Rydyn ni'n hyderus y bydd y cynllun yn fuddiol iawn i'r gymuned leol, am fod y risg o lifogydd yn cael ei lleihau yn sylweddol yn yr ardal drwy adeiladu system ddraenio well a chwlfert mwy ar gyfer Afon Wig."