English icon English

Datganiad ar y Cyd am y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau

Joint Statement on Bus Emergency Scheme

Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru (ATCO), Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr a Chymdeithas Bysiau Cymru.

Roedd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) yn cadw gwasanaethau bysiau hanfodol i redeg drwy gydol y pandemig.  Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2023, ond yn dilyn trafodaethau helaeth, fe wnaethom gyhoeddi ym mis Chwefror y byddai'n cael ei ymestyn am gyfnod pontio cychwynnol o dri mis hyd at ddiwedd Mehefin 2023.

Yn dilyn sgyrsiau pellach, gallwn gadarnhau y byddwn yn ymestyn BES am gyfnod arall o dair wythnos hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Bydd y cynllun nawr yn para hyd at 24 Gorffennaf 2023.  Bydd hyn yn golygu y bydd cludiant i’r ysgol yn parhau fel arfer.  Bydd hefyd yn rhoi sefydlogrwydd pellach i'r diwydiant wrth i ni weithio ar symud i ffwrdd o gyllido brys tuag at gynllunio rhwydweithiau bysiau sy'n gweddu'n well i'r patrymau teithio newydd rydym wedi'u gweld ers diwedd y pandemig.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r Awdurdodau Lleol a chwmnïau bysiau i fanteisio i’r eithaf ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.

Yn ogystal, cytunwyd y bydd Timau Cynllunio Rhanbarthol yn cael eu sefydlu, gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru, i ddeall effaith diwedd BES ac i ddatrys materion o ran y rhwydwaith sy'n debygol o godi yn sgil y newid i'r drefn ariannu.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y rhwydwaith mor effeithlon â phosibl ac y gall cymaint â phosibl ei ddefnyddio.  Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cwrdd ag arweinwyr awdurdodau lleol rhanbarthol i gytuno ar gylch gorchwyl ac rydym yn disgwyl i'r timau hyn ddechrau cyfarfod o'r wythnos nesaf ymlaen.

Byddwn yn parhau i gwrdd yn rheolaidd a chydweithio'n agos â’n gilydd a chyda phartneriaid eraill i adeiladu rhwydwaith bysiau cryf a chynaliadwy i Gymru.