English icon English
FM - Milford Haven-2

Y Prif Weinidog yn ymweld ag Aberdaugleddau cyn tymor ymwelwyr yr haf

[updated image] First Minister visits Milford Haven ahead of summer tourist season

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ymweld ag Aberdaugleddau wrth i Gymru baratoi ar gyfer tymor ymwelwyr prysur arall yr haf hwn.

Bydd y Prif Weinidog yn ymweld â gwesty Tŷ Hotel Milford Waterfront i glywed am y paratoadau sydd ar droed ar gyfer yr haf.

Gan ddathlu ei phen-blwydd cyntaf ym mis Ebrill, mae’r gwesty 100 stafell yn fenter rhwng Celtic Collection a Phorthladd Aberdaugleddau ac yn cyflogi dros 60 o bobl.

Mae Tŷ Hotel Milford Waterfront wedi rhagori ar bob disgwyliad yn ei flwyddyn gyntaf, gan ddenu cymysgedd o ymwelwyr a theithwyr busnes.

Gyda thri Gŵyl Banc a hanner tymor ar y gorwel, mae digonedd o gyfleoedd i bobl ymweld â Chymru dros yr wythnosau nesaf.

Mewn arolwg a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023 gan Croeso Cymru o’r bobl o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon a oedd wedi cysylltu â Croeso Cymru, gwelwyd bod y rheini oedd wedi ymweld yn 2022 yn teimlo’n bositif am eu profiadau yng Nghymru.

Roedden nhw fwyaf bodlon ag ‘ansawdd yr amgylchedd naturiol’ yng Nghymru (83% yn fodlon iawn), yna â ‘theimlo’n ddiogel’ (80%), ‘glendid y traethau’ (77%), ‘y croeso’ (76%) a ‘llefydd i ymweld â nhw’ (75%).

Am eu profiad o’u gwyliau yng Nghymru, dywedodd 78% o ymwelwyr dros nos iddynt gael profiad ‘rhagorol’ yng Nghymru, cynnydd sylweddol ers 2021.

Amcan strategaeth ymwelwyr Llywodraeth Cymru yw taenu manteision twristiaeth trwy’r wlad, annog pobl i wario mwy yn ein heconomi a thaclo natur dymhorol y diwydiant trwy hyrwyddo Cymru fel gwlad y gallwch ymweld â hi drwy’r flwyddyn.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydyn ni’n uchelgeisiol dros Gymru fel cyrchfan i ymwelwyr, ac mae’r ymchwil yn dangos yn glir bod ymwelwyr yn cael amser da yma.

“Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob rhan o’r byd i Gymru i brofi’r amrywiaeth eang y gallwn ei chynnig iddynt.

“Mae cymaint i’w weld a’i wneud a chymaint o lefydd hyfryd i ymweld â nhw ledled y wlad.

“Byddwn hefyd yn annog pobl Cymru i fentro i rannau o’r wlad nad ydyn nhw wedi’u gweld eu hunain eto.

“Rwy’n deall mor galed y mae’r diwydiant yn gweithio i sicrhau bod pawb sy’n ymweld â Chymru yn dychwelyd adref ag atgofion melys.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau i sicrhau bod twristiaeth ledled Cymru’n tyfu’n gynaliadwy.”

Dywedodd Prif Weithredwr Celtic Collection Ian Edwards:

“Rydyn ni wrth ein boddau ag ymateb brwd y gymuned leol yn Aberdaugleddau a’r miloedd o westeion sydd wedi aros yn y gwesty newydd dros y flwyddyn gyntaf.

“Mae Sir Benfro yn enwog trwy’r byd fel cyrchfan i ymwelwyr, diolch i’w harfordir a’i thirwedd, a chroeso mawr ei phobl, ac mae’r gwesty’n lle perffaith i grwydro’r myrdd atyniadau sydd gan y Gorllewin eu cynnig ohono.

“Gyda golygfeydd o’r marina a’r harbwr i’w gweld o bron pob un o’i stafelloedd, mae’r gwesty’n llwyfan hefyd i’r gwaith ailddatblygu anhygoel sydd wedi digwydd ar Lannau Aberdaugleddau.

“Yn ogystal â chroesawu ymwelwyr newydd i Sir Benfro o bob rhan o’r byd, mae’r tîm o bobl leol sy’n gweithio yn Nhŷ Hotel wedi cael boddhad o ymroi i’r gymuned, gan weini cynnyrch lleol blasus ym mwyty Dulse a noddi nifer o dimau chwaraeon a digwyddiadau yn y cylch.”