English icon English

Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda phob partner yn Llangefni - Gweinidog y Gogledd

Welsh Government continues to work with all partners in Llangefni – Minister for North Wales

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid yn Llangefni a'r gymuned ehangach ar ôl i 2 Sisters gau, yn ôl Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.

Aeth y Gweinidog ar ymweliad â'r dref a galwodd i mewn i nifer o fusnesau yn ogystal ag ymweld â'r Hwb Cymorth Cyflogaeth a sefydlwyd i gynnig cefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnynt gan gyhoeddiad 2 Sisters.  Mae'r hwb yn cynnwys nifer o sefydliadau gan gynnwys Cymru'n Gweithio, Cyngor ar Bopeth a'r Ganolfan Byd Gwaith.

          Yn dilyn cyhoeddiad 2 Sisters fe wnaeth Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Ynys Môn, sefydlu tasglu ar unwaith i gynnig cymorth llawn i weithwyr yr effeithiwyd arnynt a'r gymuned ehangach. 

          Bu'r Gweinidog hefyd yn ymweld â busnesau ar y stryd fawr ac aeth i ymweld â Caws Glanbia, cyflogwr pwysig yn Llangefni sy’n cynhyrchu caws mozzarella.  Mae Glanbia yn cyflogi 170 o staff ac yn prosesu 800,000 litr y dydd, gyda'r rhan fwyaf o'u llaeth yn dod o ffermydd Cymru.

Bu'r Gweinidog hefyd yn ymweld ag Oriel Ynys Môn, yr amgueddfa a’r oriel sy'n casglu celf ac arteffactau sy’n gysylltiedig ag Ynys Môn.  Mae'n cynnwys casgliadau o weithiau celf gan Charles Tunnicliffe a Syr Kyffin Williams. 

          Meddai’r Gweinidog: "Bu'n ddechrau anodd i'r flwyddyn i Langefni gyda'r newyddion am 2 Sisters.  Tra bod y ffatri bellach wedi cau mae'r gefnogaeth i'r rhai sydd wedi'u heffeithio yn parhau, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda'r holl bartneriaid.

          "Hoffwn ddiolch i bawb fu'n cynnig y gefnogaeth hon dros y misoedd diwethaf.

          "Roeddwn yn falch o dreulio amser yn Llangefni a chael cyfle i gwrdd â nifer o bobl y dref, ar y Stryd Fawr a chyda chyflogwr mawr yn y dref fel Glanbia "

Cyfarfu Arweinydd Cyngor Môn â threfnydd y portffolio economaidd, y Cynghorydd Llinos Medi, a'r Prif Weithredwr, Dylan J. Williams, â'r Gweinidog Lesley Griffiths ar ei hymweliad â Llangefni.

Meddai'r Cynghorydd Llinos Medi, "Cawsom gyfarfod cynhyrchiol gyda'r Gweinidog ac roeddem yn falch o drafod nifer o faterion strategol sydd o bwys mawr i ddyfodol yr Ynys.  Cytunwyd hefyd i barhau i gysylltu a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y dyfodol."

"Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ymweld â'r dref a chyfarfod â dau o'n prif gyflogwyr lleol, Glanbia a Huws Gray, ynghyd â busnesau lleol gan gynnwys Cain, Siop Ellis - SPAR, Cosy Corner Cafe, yn ogystal ag ymweld â Choleg Llandrillo Menai ac Oriel Môn."