English icon English

Myfyrwyr sy’n wneuthurwyr ffilmiau yn dangos amrywiaeth yn y gweithlu addysg

Student filmmakers spotlight diversity in education workforce

Mae Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd wedi gosod y carped coch ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau ifanc o Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Glantaf.

Mae'r disgyblion yn rhan o Glwb Amrywiaeth, sy'n cynnwys disgyblion o Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn rhannu eu profiadau, eu syniadau a'u teimladau. Mae'r grŵp wedi dod yn gyswllt pwerus rhwng disgyblion ac athrawon, sydd wedi datblygu eu cwricwlwm i greu amgylchedd cynhwysol.

Mae’r disgyblion wedi gweithio gyda chriwiau ffilm proffesiynol i gynhyrchu eu ffilmiau eu hunain yn egluro pam mae angen mwy o athrawon Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru. Cynhyrchwyd rhaglen ddogfen hefyd, gan ddilyn y myfyrwyr wrth iddynt greu'r chwe ffilm fer.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymhelliant i ddenu gweithlu addysgu mwy amrywiol. Mae’r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn darparu hyd at £5,000 i unigolion cymwys sydd am ddod yn athrawon dan hyfforddiant. Y nod yw cefnogi ymdrechion i sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais ar gael yma.

Mae hanesion a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddeunyddiau dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliol (DARPL) newydd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol, a grëwyd gan glymblaid ddeinamig o bartneriaid ag ystod eang o arbenigedd a phrofiad bywyd. Lansiwyd DARPL yn wreiddiol mewn ysgolion, ond mae bellach yn ymestyn i ymarferwyr gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar, ac addysg bellach.

Daeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ddangosiad cyntaf y ffilmiau. Dywedodd:

"Mae disgyblion Llanwern a Glantaf wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol yn eu Clwb Amrywiaeth. Mae'r ffilmiau maen nhw wedi'u cynhyrchu yn helpu i ddangos i ni pam mae hi mor bwysig bod pobl ifanc yn gallu eu hadnabod nhw eu hunain a'u profiadau yn eu hathrawon a'u harweinwyr.

"Mae llai na 2% o'n gweithlu addysgu o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol. Yn syml, dyw hynny ddim yn ddigon da. Rwyf wedi ymrwymo i gynyddu cynrychiolaeth o fewn ein gweithlu addysg."

Dywedodd Gwen sy'n rhan o'r clwb amrywiaeth:

“Mae’n rili bwysig i gael modelau rôl i blant o grwpiau ethnig lleiafrifol, er mwyn iddyn nhw allu gweld pobl mewn llefydd o bŵer a gweld pobl fel nhw mewn rolau pwysig o fewn cymdeithas.”