English icon English

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Wales first in the UK to increase Education Maintenance Allowance payment

Cadarnhaodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ei bod yn debygol mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

O fis Ebrill 2023, bydd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cynyddu o £30 yr wythnos i £40 i  fyfyrwyr addysg bellach cymwys sydd yn y chweched dosbarth neu mewn coleg.

Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn grant wythnosol sydd wedi ei lunio i gefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o aelwydydd incwm isel gyda chostau addysg bellach megis teithio neu brydau bwyd.

Mae myfyrwyr addysg bellach yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg os yw incwm yr aelwyd yn £20,817 neu’n is, os mai nhw yw’r unig berson ifanc ar yr aelwyd, neu £23,077 os oes mwy nag un person ifanc ar yr aelwyd. Mae cyfrifiannell addysg bellach ar gael i wirio cymhwystra myfyrwyr.

Bydd y cynnydd yn ymrwymiad am y ddwy flynedd academaidd nesaf, tra bydd adolygiad cynhwysfawr o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cael ei gynnal.

Mae tua 16,000 o fyfyrwyr addysg bellach yng Nghymru yn cael y taliad ar hyn o bryd, sy’n cael ei dalu bob bythefnos.


Hefyd, yn ogystal â’r cynnydd i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, cyhoeddodd Jeremy Miles bod cyllid ar gael i ganiatáu apelau rhad ac am ddim i ddysgwyr sydd o dan anfantais yn economaidd sy’n astudio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod haf 2023.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Yng Nghymru rydym wedi parhau i ddiogelu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ac mae’r cynnydd yn y taliad yn helpu gyda chostau dysgu gwirioneddol y myfyrwyr.

Rydym yn gwerthfawrogi nad yw cyfradd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi cynyddu ers peth amser ac, yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, rydym yn deall bod pobl ifanc hefyd yn teimlo'r straen ariannol. Tra ydym yn gweithio i gynnal adolygiad annibynnol o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd y codiad hwn yn y taliad yn darparu cymorth ychwanegol i gael gwared ar rwystrau i ddysgu. Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r system apelau am ddim i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn rhan o becyn cymorth yr ydym yn ei ddarparu yng Nghymru i fyfyrwyr cymwys. Rwy’n annog pobl ifanc i ddarganfod a ydynt yn gymwys i gael y taliad.”

Dywedodd Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Orla Tarn:

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar fyfyrwyr ac wedi cyhoeddi cynnydd hir-ddisgwyliedig i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

“Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn hanfodol i gefnogi pobl ifanc o deuluoedd incwm isel gyda chost addysg bellach. Fodd bynnag, yng nghyd-destun costau byw cynyddol, roedd yn amlwg bod angen cynnydd i atal dysgwyr ifanc rhag cael eu prisio allan o addysg.

"Mae llawer o waith yn dal i'w wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng costau dysgu. Mae myfyrwyr ledled Cymru yn wynebu cynnydd mewn rhent, biliau uwch, prisiau bwyd enfawr, a chostau trafnidiaeth sy'n gorfodi dysgwyr i ddewis rhwng mynychu dosbarthiadau a thalu am fwyd.

"Dylid seilio unrhyw adolygiad o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar y ffordd orau o arfogi myfyrwyr addysg bellach i wireddu eu potensial yn ein system addysg. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llais myfyrwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau."