Skip to main content

TfW customers urged to check before travelling

21 Ebr 2023

Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw a gwirio cyn teithio am weddill mis Ebrill tra bo gwaith uwchraddio seilwaith yn cael ei wneud ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

De Cymru

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwneud gwaith uwchraddio seilwaith ar draws rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer Metro De Cymru, lle bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar waith ar rai gwasanaethau.

Bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar y gwasanaethau canlynol:

  •  Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd o ddydd Sadwrn 15 Ebrill nes 12:30 ddydd Sul 30 Ebrill.
  • Pontypridd ac Aberdâr - ddydd Sul 16 Ebrill nes ddydd Gwener 12 Mai.
  • Canol Caerdydd a Radyr ar hyd Linell y Ddinas - ddydd Llun 17 Ebrill nes ddydd Gwener 21 Ebrill, ac o ddydd Llun 24 Ebrill nes ddydd Mawrth 2 Mai.
  • Caerdydd Canolog a Radyr i Cathays o ddydd Mawrth 25 Ebrill nes ddydd Mawrth 2 Mai. 
  • Radyr a Phontypridd o ddydd Mawrth 25 Ebrill nes ddydd Gwener 12 Mai. 
  • Pontypridd a Merthyr Tudful o ddydd Sadwrn 29 Ebrill nes ddydd Mawrth 2 Mai
  • Pontypridd a Threherbert o ddydd Sadwrn 29 Ebrill nes dechrau 2024. 

Bydd gwasanaethau rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy yn cael eu disodli gan wasanaeth bws yn lle trên ddydd Sul 23 a ddydd Sul 30 Ebrill.

Am ragor o wybodaeth ewch i https://trc.cymru/prosiectau/metro/newidiadau-gwasanaeth   

Gogledd Cymru

Mewn mannau eraill ar y rhwydwaith, caiff gwaith peirianneg ei wneud ar nifer o wasanaethau dros benwythnos dydd Sadwrn 22 a dydd Sul 23 Ebrill.  Bydd Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ar gau rhwng y Rhyl a Bangor a bydd Rheilffordd Dyffryn Conwy ar gau trwy gydol y cyfnod.  Bydd gwasanaeth bws y lle trên yn gwasanaethu ar y llwybrau hyn.

Gorllewin Cymru

Y penwythnos dilynol, bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Caerfyrddin, Aberdaugleddau a Harbwr Abergwaun ddydd Sadwrn 29 a dydd Sul 30 Ebrill.

Gwasanaethau cyfredol

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i hysbysu cwsmeriaid y bydd y gwasanaethau hynny sy’n rhedeg yn parhau i fod yn brysur iawn tra bydd y rhaglen cynnal a chadw barhaus ar drenau Dosbarth 175 yn parhau.  Mae nifer y trenau sydd ar gael i’w defnyddio wedi cynyddu, gan alluogi Trafnidiaeth Cymru i adfer gwasanaethau ar bron pob llwybr ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, gan gynnwys Lein y Gororau rhwng    gwasanaethau rhwng Caer a Lerpwl drwy Runcorn, a Lein Dyffryn Conwy.

Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd rhai gwasanaethau'n dal i redeg gyda llai o le arnynt, a dyw’r gwasanaeth rhwng Casnewydd a Crosskeys dal ddim ar gael.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd parhaus tra gwneir y gwaith trawsnewid hanfodol hwn digwydd ar reilffyrdd y Cymoedd ac wrth i ni barhau i weithio i ddatrys y problemau gyda’n trenau Dosbarth 175.

“Oherwydd bod gwaith gwirio brys yn cael ei wneud ar ein trenau Dosbarth 175 ynghyd ac atgyweiriadau i'r injans, ar ôl nifer o ddigwyddiadau’n ddiweddar, mae gennym brinder cerbydau dros dro ar draws y rhwydwaith.  Oherwydd hyn, rydym wedi gorfod ailddosbarthu cerbydau fel y gallwn gael yr effaith leiaf bosilb ar ein teithwyr.

“Wrth i’r prinder cerbydau leihau, mae llawer o'n trenau yn gwasanaethu i amserlenni arferol unwaith yn rhagor.  Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau’n dal i gael eu gweithredu gan wahanol drenau gyda llai o le arnynt nag arfer, felly rydym felly rydym yn parhau i weithio drwy’r rhaglen atgyweirio y trenau Dosbarth 175. Cyn gynted ag y bydd pob trên yn cael ei atgyweirio ac yn pasio'r gwiriadau diogelwch, mae'n cael ei ddychwelyd i wasanaeth teithwyr.”