- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
03 Ebr 2023
Ar Lein y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston heddiw, cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru (TrC) drenau batri-hybrid cyntaf i’w fflyd, trenau oedd yn arfer cael eu defnyddio i wasanaethu teithwyr yn rheolaidd yn Gymru. Dyma’r tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd.
Gadawodd y gwasanaeth cyntaf hir-ddisgwyliedig a weithredir gan un o drenau Dosbarth 230 TrC Wrecsam Canolog am 07:31, yn dilyn misoedd o brofi a hyfforddi criw.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn berchen ar bum trên Dosbarth 230 tri-cherbyd, pob un a thros 120 o seddi a lle i dros 420 o gwsmeriaid – cynnydd sylweddol ar drenau blaenorol. Mae'r trenau metro hyn oedd yn arfer gwasanaethu ar London Underground, yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon ac ecogyfeillgar gan ddefnyddio diesel a batris.
Gyda thoiledau cwbl hygyrch, socedi pŵer, gwybodaeth electronig i deithwyr, Wi-Fi, raciau beiciau a systemau aerdymheru, mae’r trenau’n garreg filltir arwyddocaol i Trafnidiaeth Cymru, wrth iddynt barhau i gyflawni eu cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru a’r gororau.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych. Wedi’u hariannu gan ein buddsoddiad o £800m mewn fflyd newydd o drenau, mae’r Dosbarth 230au yn chwarae rhan bwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd y trenau newydd hyn yn fwy cyfforddus, a bydd cyfleusterau modern a chyda’r injans hybrid newydd yn well i’r amgylchedd.”
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn hapus iawn bod y trên Dosbarth 230 cyntaf wedi dechrau gwasanaethu. Gydag injans hybrid a chyfleusterau modern, bydd y trenau hyn yn gwella profiad cwsmeriaid ar Lein y Gororau yn sylweddol trwy ddarparu cyfleusterau gwell a mwy o gapasiti.
“Rydym wedi ymrwymo i wella'r gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Dinas-ranbarth Lerpwl. Rydym eisoes wedi cyflwyno trenau newydd sbon ar wasanaethau rhwng Caer a Lerpwl, ac rydym yn bwriadu cynyddu amlder gwasanaethau rhwng Wrecsam a Bidston, yn ogystal â darparu gwasanaeth uniongyrchol newydd rhwng Llandudno a Lerpwl ar hyd arfordir Gogledd Cymru.”