Skip to main content

TfW working with local community to plant trees across Merthyr Tydfil

01 Awst 2022

Bydd coed newydd yn cael eu plannu mewn ardaloedd ar draws Merthyr Tudful drwy bartneriaeth gymunedol newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru (TrC), The Good Friendship Group a The Engine House, Dowlais, a gwirfoddolwyr Eglwys Dewi Sant Merthyr.

Mae The Good Friendship Group ynghyd â grŵp Eglwys Dewi Sant yn wirfoddolwyr sy’n gweithio i gefnogi pobl hŷn ym Mwrdeistref Merthyr gan gynnwys gerddi Eglwys Dewi Sant. Mae’r Dowlais Engine House, sydd ag oddeutu 25,000 metr sgwâr o dir, yn cefnogi pobl ifanc yn y gymuned leol.  

Fel rhan o brosiect Coed Cymunedol TrC, bydd TrC a The Good Friendship / Grŵp yr Eglwys yn plannu border o goed brodorol ar hyd tir yr Eglwys ac yn plannu coetir a blodau gwyllt yng nghanol Merthyr a bydd y Good Friendship Group, gan weithio gyda’r Engine House, yn gwella ac yn datblygu’r ardal o goetir yn nhir yr Engine House. 

Dywedodd Janet Morgan, Arweinydd The Good Friendship Group: “Mae’r holl grwpiau sy’n gweithio yn y prosiect ym Merthyr yn cefnogi ac yn hyrwyddo bioamrywiaeth. Bydd gweithio gyda TrC yn annog aelodau iau a hŷn o’r gymuned i ddefnyddio’r ardaloedd ar gyfer gweithgareddau sy’n hyrwyddo cydweithio i wella iechyd a llesiant ym Merthyr Tudful. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y cyfleoedd gwych y bydd y prosiect yn eu hysgogi ar gyfer ein dyfodol.” 

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Bydd y prosiect Coed  Cymunedol yn helpu i wneud coetiroedd yn fwy hygyrch a gwydn, gan gefnogi iechyd a llesiant cymunedau a darparu ardaloedd ar gyfer rhagor o gysylltiadau a bioamrywiaeth bywyd gwyllt. Mae prosiectau fel hyn yn bwysig i ni yn TrC, mae creu rhwydwaith mwy cysylltiedig yn golygu mwy na gwell opsiynau trafnidiaeth. Drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau, gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae ar Gymru ei angen, yn ei haeddu ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” 

Mae TrC ac 11 o bartneriaid cymunedol ar draws Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coed Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol . Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru. 

Mae’r prosiect naw mis yn gydweithrediad gyda sefydliadau ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymunedol.  Gyda’n gilydd, byddwn yn creu safleoedd coetir newydd ac yn gwella coetiroedd sydd eisoes yn bodoli mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru. 

Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach TrC, Coed Cymunedol, sy’n cael ei hariannu gan y cynllun Coed Cymunedol. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru .