Skip to main content

TfW celebrates apprenticeship graduates

18 Awst 2022

Yma yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n falch o gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd prentisiaeth gwych i helpu pobl ifanc i roi hwb i’w gyrfaoedd.

Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i alluogi ein prentisiaid i ennill eu cymhwyster galwedigaethol a chychwyn rhaglen datblygiad personol, a hynny ar yr un pryd ag ennill llu o sgiliau gwerthfawr a phrofiadau go iawn ym myd gwaith. Mae’r cyfleoedd hyn yn caniatáu i ni recriwtio rhai o’r doniau gorau i gefnogi ein timau i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth y gall Cymru fod yn falch ohono.

Ac rydyn ni’n teimlo’n falch iawn ar hyn o bryd, gan ein bod wedi gallu dathlu rhai o’n prentisiaid Fflyd gwych yn ddiweddar sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau ac wedi graddio gydag anrhydedd llawn!

Mae Chloe Thomas, Lewis Williams, a Nathan Currie wedi bod yn cyfuno eu hastudiaethau â bywyd gwaith Trafnidiaeth Cymru dros y pedair blynedd diwethaf. Wrth iddyn nhw wisgo eu cap a’u gŵn a dathlu’r llwyddiannau gwych maen nhw wedi gweithio mor galed amdanyn nhw, buon ni’n siarad â nhw i gael rhywfaint o wybodaeth amdanyn nhw, sut roedden nhw’n teimlo o ran cyfuno eu hastudiaethau â bywyd gwaith, yn ogystal â'r cyngor y bydden nhw’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth gyda ni. Rhoddodd pob un ohonyn nhw flas i ni ar eu profiad nhw. Dyma beth ddywedon nhw:

 

Chloe Thomas

Helo, fy enw i yw Chloe Thomas, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Peiriannydd Cymorth Fflyd i Trafnidiaeth Cymru, gan helpu mewn meysydd sy’n ymwneud â chynnal a chadw’r fflyd a pheirianneg, er mwyn helpu i sicrhau bod yr adran Peirianneg Fflyd yn rhedeg yn esmwyth.

Yn ogystal â fy swydd, rwyf wedi bod yn astudio’n rhan amser am radd BSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol dros y blynyddoedd diwethaf. Drwy gydol fy astudiaethau, rydw i wedi gallu mynd i ddarlithoedd wythnosol, gan eu cyfuno â fy wythnos waith yn Trafnidiaeth Cymru.

Mae cael cyfle i gwblhau fy ngradd ar yr un pryd â gweithio’n llawn amser yn fy swydd wedi bod yn gyfle gwych ac rwyf wedi dysgu llawer. Mae wedi fy ngalluogi i reoli fy amser fy hun, dysgu, cynnal ymchwiliadau, cwblhau arholiadau, a llunio adroddiadau traethawd hir i safon uchel.  Mae’r pynciau a ddysgais drwy gydol fy ngradd wedi rhoi cipolwg i mi ar ddyfodol ein fflyd a’n technoleg, gan fod rhai o’r pynciau’n cynnwys cerbydau trydan hybrid, peiriannau DC, technoleg Batri a systemau Pŵer.

Chloe 2-2

Mae’r amrywiaeth ar y cwrs wedi bod yn wych, ond fy hoff ran i oedd cwblhau fy mhrosiect traethawd hir, gan fy mod i wedi gallu rheoli fy hun a chynhyrchu prototeip gweithredol amgen a oedd yn cynnig ffordd o arbed amser ac arian yn lle system bresennol yn Nepo Treganna.

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dilyn yr un llwybr dysgu â mi fyddai ymroi yn llwyr iddo a manteisio ar y cyfle i astudio wrth weithio. Mae llawer iawn o fuddsoddiad yn mynd i’r diwydiant rheilffyrdd sy’n cynnig potensial enfawr ar gyfer gyrfa hir a hapus. Gyda’r diwydiant hefyd yn dod yn lle mwy a mwy amrywiol i weithio ynddo, mae digon o gyfle i bobl o bob cefndir ddilyn eu gyrfa ddewisol. Ac mae unrhyw gyfleoedd i ennill cymwysterau ychwanegol drwy astudio, wrth gwrs, yn fonws enfawr!

Er ei fod wedi cymryd ychydig mwy o amser na chwrs prifysgol confensiynol oherwydd ei fod yn rhan-amser, rwy’n teimlo balchder fy mod wedi llwyddo i ennill y cymhwyster tra’n gweithio mewn swydd amser llawn. Ar ôl cael fy nghanlyniadau’n ddiweddar, roeddwn wrth fy modd yn cael gwybod fy mod wedi cael Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, ac fy mod hefyd wedi cael Gwobr IET ar gyfer y myfyriwr mwyaf arbennig! Yn fy seremoni raddio, roeddwn wrth fy modd yn cael fy gwobr gan ysgrifennydd yr IET. Cyflwynwyd wobr ychwanegol i mi hefyd gan Ddeon y Brifysgol – y Dystysgrif Rhagoriaeth ar gyfer Prifysgol De Cymru. Roedd yn ddiwedd anhygoel ar fy addysg prifysgol, ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol!

 

Lewis Williams

Helo, Lewis Williams ydw i, ac rydw i’n Brentis Cynnal a Chadw Fflyd yn Nepo Treganna. Dechreuais y brentisiaeth hon gydag angerdd dros brosiectau adeiladu, peirianneg fecanyddol ac electroneg. Diolch i’m profiadau dysgu ar y cyd yng Ngholeg y Cymoedd ac yn Nepo Rheilffordd Treganna, rydw i bellach wedi llwyddo i ennill gradd 2 Rhagoriaeth a 2 Lefel Teilyngdod mewn HNC+ - Peirianneg Electronig a Thrydanol, Tystysgrif NVQ Lefel 3 mewn Tyniant a Cherbydau, a BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol!

Mae'r cymwysterau hyn wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy nealltwriaeth o’r pethau yr oeddwn yn eu hoffi yn barod, gan ddatblygu cymaint o gysylltiadau ar hyd y ffordd. Er bod cydbwyso patrymau shifftiau bob yn ail gan weithio yn ystod y dydd a gyda’r nos wrth gwblhau modiwlau’r cwrs yn heriol ar adegau, roedd Trafnidiaeth Cymru wedi teilwra’r profiad i ddiwallu fy anghenion, ac wedi gwneud yn siŵr fy mod yn cael digon o seibiant rhwng gwaith ac addysg bob cam o’r ffordd. 

Fel rhan o fy mhrentisiaeth, rydw i wedi cael profiad o adeiladu a chwilio am chwilod mewn cylchedau trydanol a’u rhaglennu fy hun i gyflawni’r swyddogaethau rwy’n eu dymuno. Diolch i’r profiad a’r cyrsiau hyfforddi a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru, rwyf yn awr yn gwerthfawrogi systemau peirianneg fecanyddol yn well o lawer – yn enwedig swyddogaethau peiriannau!

Uchafbwynt fy mhrofiad oedd gallu ffonio fy rhieni a rhannu’r newyddion fy mod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth 4 blynedd – byddaf yn cofio hynny am byth! Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dymuno bod yn rhan o’r tîm a chwblhau proses debyg fyddai gwrando ar bobl hŷn, a chwblhau cynifer o gyrsiau a TGAU ag sy’n bosibl yn ystod eich blynyddoedd ysgol neu ar ôl hynny.

 
Nathan Currie

Nathan Currie ydw i ac rydw i newydd gwblhau fy mhedwerydd blwyddyn, sef blwyddyn olaf fy mhrentisiaeth gyda Trafnidiaeth Cymru. Rydw i’n Brentis Fflyd yn nepo Treganna ar hyn o bryd, ond ym mis Medi rydw i’n gobeithio symud ymlaen i swydd Technegydd Cynnal a Chadw Fflyd Categori 4 cymwys, ochr yn ochr â pharhau â fy addysg ac astudio tuag at radd sylfaen mewn peirianneg electronig a thrydanol.

Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd mae TrC wedi’u rhoi i mi. Nid yn unig ydw i wedi gallu parhau â’m haddysg hyd at lefel HNC, ond rydw i wedi cael 4 blynedd o brofiad o weithio ar amrywiaeth o fflyd, gan gynnwys yr hen pacers a’n trenau 769... a byddaf yn cael gweithio gyda threnau Stadler cyn bo hir hefyd!

Roedd gweithio patrwm shifftiau wrth astudio tuag at fy nghymwysterau yn anodd ar brydiau. Fodd bynnag roeddwn yn teimlo fy mod yn cael cefnogaeth dda gan fy mentoriaid, a oedd bob amser wrth law i gynnig cefnogaeth ac arweiniad.

Byddwn yn argymell prentisiaeth i unrhyw un sy’n meddwl mynd amdani gan mai dyma’r llwybr perffaith i’r diwydiant rheilffyrdd. Rydw i wedi ennill cymaint o sgiliau peirianneg a fydd yn aros gyda mi drwy gydol fy ngyrfa, ac yn ogystal ag ochr sylfaenol pethau, rydw i wastad wedi teimlo’n aelod gwerthfawr o fy nhîm o’r dechrau un.

Group 2 (2)-2

Soniodd Rheolwr Peirianneg Fflyd TrC, Stuart Mills am ei falchder a’i hyder yn llwyddiant ein graddedigion yn y dyfodol:

“Mae gweld ein graddedigion yn llwyddo’n dod â gwên enfawr i fy wyneb. Ar ôl cwblhau prentisiaeth fy hun, rwy’n gwerthfawrogi’n llwyr yr ymrwymiad a’r gwaith caled a wnaed gan bawb dros y 4 blynedd diwethaf.

“Fodd bynnag, rwy’n gwbl sicr y bydd y gwaith caled yma’n rhoi digon o lwyddiant i bob un ohonyn nhw, yn eu gyrfaoedd proffesiynol ac yn eu bywydau personol yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n fanteisiol iawn i TrC, y diwydiant rheilffyrdd, peirianneg ac, wrth gwrs, y graddedigion eu hunain!”.

 

Hoffem ddiolch i’n graddedigion am eu holl waith caled gyda ni yma hyd yma, yn eu hastudiaethau ac mewn bywyd proffesiynol o ddydd i ddydd. Hoffem ddiolch yn fawr iawn hefyd, wrth gwrs, i’n staff yn y Fflyd ac ar draws y busnes. Mae eu brwdfrydedd a’u harbenigedd wedi helpu ein prentisiaid i ddatblygu eu Gwybodaeth a’u sgiliau Ymarferol bob dydd, yn barod ar gyfer gyrfa hir a llwyddiannus ar y rheilffordd.