English icon English

Y Gweinidog Addysg yn llongyfarch myfyrwyr TGAU ar eu canlyniadau

Education Minister congratulates GCSE students on their results

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi llongyfarch pobl ifanc ledled Cymru wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu harholiadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.

Dyma’r tro cyntaf i ddysgwyr ddychwelyd i arholiadau TGAU ffurfiol ers 2019.

Dywedodd y Gweinidog:

“Llongyfarchiadau i bawb oedd yn derbyn eu canlyniadau heddiw. Dylech chi i gyd fod yn falch o’r gwaith caled wnaethoch chi drwy’r holl darfu a fu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rwy’n croesawu’r canlyniadau hyn wrth i ni symud yn ôl at arholiadau eleni – mae’n wych gweld beth mae ein dysgwyr wedi ei gyflawni.

“Peidiwch â bod yn rhy siomedig a pheidiwch â bod yn rhy feirniadol ohonoch chi’ch hunan os nad aeth pethau fel yr oeddech yn ei ddisgwyl heddiw. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael ichi, os ydych chi’n ansicr beth i’w wneud nesaf, neu efallai na wnaethoch sefyll eich arholiadau. Cysylltwch â Gyrfa Cymru neu’ch ysgol am gymorth.

“O dan ein Gwarant i Bobl Ifanc, caiff pawb sydd o dan 25 oed gyfle i gofrestru ar gyfer addysg neu hyfforddiant, i ddarganfod gwaith neu i fynd yn hunangyflogedig. Edrychwch ar Cymru’n Gweithio i ddarganfod sut i gymryd rhan.

“Gobeithiaf eich bod yn falch o’r hyn rydych wedi ei gyflawni, a phob lwc ichi ar eich camau nesaf.”