English icon English
mhorwood Covid 19 Oxford-Astrazeneca Vaccine 040121 31

Gwahodd oedolion cymwys yng Nghymru i gael pigiad atgyfnerthu’r hydref

Autumn booster invitations issued to eligible adults in Wales

Yr wythnos hon mae oedolion cymwys yng Nghymru wedi dechrau cael eu gwahodd i gael eu pigiad atgyfnerthu’r hydref ar gyfer COVID-19.

Bydd y brechiadau’n cael eu rhoi o ddechrau mis Medi 2022 ymlaen i helpu i atgyfnerthu imiwnedd pobl sydd â risg uwch yn sgil COVID-19, gan eu diogelu yn well rhag salwch difrifol, ac i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod gaeaf 2022-23.

Bydd ein strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn sicrhau bod pobl gymwys hefyd yn cael eu diogelu rhag y ffliw tymhorol ac rydym yn annog pobl i fanteisio ar y brechlyn ffliw pan fydd yn cael ei gynnig iddynt.

Bydd un dos o frechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig i’r canlynol:

  • Preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd yn gyswllt cartref i bobl sydd â system imiwnedd wan
  • Pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr.

Yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd oedolion cymwys 18 oed a hŷn yn cael cynnig brechlyn Moderna, sy'n diogelu rhag y feirws Covid gwreiddiol a'r amrywiolyn Omicron, i ddechrau. Bydd y rhai cymwys sydd o dan 18 oed yn cael cynnig brechlyn Pfizer. Bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig o leiaf dri mis ar ôl unrhyw ddos blaenorol.

Bydd oedolion cymwys yn cael eu gwahodd yn bennaf drwy lythyr i fynd i ganolfan frechu, meddygfa neu fferyllfa i gael eu pigiad atgyfnerthu’r hydref.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Wrth i’r Deyrnas Unedig symud o gyfnod o ymateb brys i’r pandemig i gyfnod o adfer, fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar ddiogelu pobl sy’n dal i fod mewn mwy o berygl o salwch COVID-19 difrifol.

“Mae brechu wedi cael effaith enfawr ar hynt y pandemig ac wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng y feirws, salwch difrifol, derbyniadau i ysbytai a marwolaeth. Maen nhw wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi'r rhyddid a'r hyder inni ailddechrau ein bywydau.

“Dw i’n annog pawb sy’n gymwys ac sy’n cael gwahoddiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu’r hydref eleni i fanteisio ar y cynnig, a hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y rhaglen frechu yng Nghymru.”

Mae ein strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn cadarnhau y dylai byrddau iechyd roi’r brechiad COVID-19 a’r brechiad ffliw yr un pryd lle bynnag y bo’n bosibl, er enghraifft i bobl â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), er mwyn annog cynifer o bobl â phosibl i fanteisio ar y cyfle i gael eu diogelu ar gyfer y gaeaf.

Bydd y brechiad ffliw yn cael ei roi mewn lleoliadau amrywiol megis ysgolion, meddygfeydd a fferyllfeydd. I gael gwybod mwy am sut i gael y ddau frechlyn, ewch ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn parhau i argymell bod pawb yn cymryd y camau canlynol i ddiogelu eu hunain, ac i ddiogelu Cymru:

  • Cael y brechlyn
  • Golchi dwylo’n dda ac yn rheolaidd
  • Aros gartref a chael cyn lleied o gyswllt â phosibl ag eraill os ydych chi’n sâl
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur a chaeedig dan do
  • Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored lle bynnag y bo’n bosibl
  • Pan fyddwch dan do, cynyddu lefel yr awyru a gadael awyr iach i mewn.

Diwedd