- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
16 Awst 2022
Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal am ddau ddiwrnod yr wythnos hon (Awst 18 a 20) oherwydd y gweithredu diwydiannol cenedlaethol parhaus.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd dau ddiwrnod o weithredu diwydiannol yn digwydd ddydd Iau 18 a dydd Sadwrn 20 Awst.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn rhan o’r anghydfod gyda’r RMT ond o ganlyniad i’r anghydfod rhwng yr undeb a Network Rail, ni fyddwn yn gallu gweithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.
Dydd Iau 18 a dydd Sadwrn 20 Awst – gwasanaeth rheilffordd cyfyngedig iawn, peidiwch â theithio ar y trên.
Yr unig wasanaethau fydd yn rhedeg fydd ar Linellau Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru a gwasanaeth gwennol o Gaerdydd i Gasnewydd, gydag un trên yn rhedeg bob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30 awr.
Ni fydd unrhyw wasanaethau TrC eraill ledled Cymru a’r Gororau yn gallu gweithredu.
Bydd gwasanaethau trên yn rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful ar ffurf gwasanaeth bob awr i bob cyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30.
Bydd trenau’n gallu gweithredu rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful cyn 07:30 o’r gloch ac ar ôl 18:30 o’r gloch (ond dim ond hyd at 20:30 o’r gloch ar ddydd Iau 18 oherwydd gwaith peirianyddol). Bydd trafnidiaeth ffordd yn galluogi cwsmeriaid i deithio rhwng Caerdydd Canolog a Radur i bob cyfeiriad y tu allan i'r oriau hyn.
Fodd bynnag, cynghorir cwsmeriaid y bydd capasiti ar drafnidiaeth ffordd yn hynod o gyfyngedig a disgwylir i'r holl wasanaethau trên a thrafnidiaeth ffordd fod yn hynod o brysur oherwydd y bydd llai o wasanaethau yn rhedeg.
Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol a chynghorir cwsmeriaid i deithio dim ond os oes angen ar ddydd Mercher 17, dydd Gwener 19 a dydd Sul 21 Awst.
Dydd Gwener 19 Awst (y diwrnod rhwng y streiciau)
Oherwydd patrymau shifft signalwyr Network Rail a'r heriau sylweddol wrth symud trenau a chriwiau i weithredu rhwng diwrnodau streic mae'n debygol y bydd tarfu.
Llinellau Craidd y Cymoedd - Dydd Gwener 19 Awst
Bydd pob un o'r gwasanaethau cyntaf y dydd fydd yn gadael Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn cael eu hamseru fel eu bod yn cyrraedd Radur ar ôl 07:00 o'r gloch. Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 o'r gloch ar unrhyw lein ac eithrio rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful - Radur.
Ni fydd unrhyw wasanaethau trafnidiaeth ffordd a gynlluniwyd ymlaen llaw yn rhedeg cyn 18:30 awr ar Linellau Craidd y Cymoedd.
Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cynta'r dydd.
Holl wasanaethau eraill TrC - Dydd Gwener 19 Awst
Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 o’r gloch ar unrhyw un o wasanaethau TrC ac maent yn debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cynta'r dydd.
Anogir cwsmeriaid i wirio gwefan, ap neu gyfryngau cymdeithasol TrC cyn teithio.
Tocynnau cyfredol
Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau dilys nad ydynt yn docyn tymor sy’n ddilys ar gyfer teithio ddydd Iau 18 a dydd Sadwrn 20 Awst ddefnyddio’r tocynnau hyn unrhyw bryd rhwng dydd Mercher 17 a dydd Mawrth 23 Awst. Anogir cwsmeriaid i osgoi teithio ar ddydd Gwener 19 a ddydd Sul 21 Awst gan fod disgwyl y bydd gwasanaethau yn hynod o brysur.
Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn, heb unrhyw ffi weinyddol. Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy’r broses Ad-daliad am Oedi (Delay Repay).