- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
12 Awst 2022
Bydd cynllun peilot bws fflecsi ar gyfer Casnewydd yn dod i ben ar 25 Medi 2022 ar ôl cyfnod llwyddiannus o 12 mis o dreialu teithio sy’n ymateb i’r galw mewn amgylchedd trefol.
Darparodd prosiect peilot Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, a gefnogwyd gan Gyngor Casnewydd a Newport Transport, ddata sylweddol a fydd yn awr yn cael ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i wella cynllunio llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal yn y dyfodol.
Mae’r peilot hefyd wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar sut mae arferion teithio cwsmeriaid wedi newid yn ystod pandemig Covid, gan ddangos bod llai o bobl yn teithio i’r gwaith ers cyflwyno trefniadau gweithio gartref a bod teithiau hamdden wedi cynyddu.
Bydd Newport Transport yn cyhoeddi eu hamserlen bysiau newydd yr wythnos yn dechrau 22 Awst a bydd y gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno o 4 Medi 2022, gan roi cyfnod pontio o dair wythnos i deithwyr cyn i’r gwasanaeth fflecsi ddod i ben.
Dywedodd Andrew Sherrington, Pennaeth Rhwydwaith Bysiau a Datblygu Gwasanaethau TrC: “Yn TrC rydym yn edrych yn barhaus am ffyrdd o wella trafnidiaeth gyhoeddus a darparu rhwydwaith sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid. Rhoddodd y cynllun peilot fflecsi yng Nghasnewydd y cyfle i ni weithredu a datblygu trafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw mewn lleoliad trefol. Rydym hefyd wedi cael cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol yn ei sgil am y teithio sy'n digwydd o amgylch y ddinas.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y peilot a’u hannog i gadw llygad am yr amserlen bysiau newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.”
Ychwanegodd Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Transport: “Roedd Newport Transport yn falch o gael ei ddewis i weithredu’r gwasanaeth fflecsi trefol peilot ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, ac mae canlyniad hynny wedi golygu ein bod wedi gallu datblygu ein rhwydwaith gan ddefnyddio’r data a gasglwyd yn ystod y cyfnod peilot hwn.
“Bydd Newport Transport yn gwneud nifer o welliannau i’r gwasanaeth o ddydd Sul 4 Medi gyda’r bwriad o liniaru’r cynllun peilot fflecsi sy’n dod i ben. Bydd rhagor o wybodaeth fanwl yn dilyn. Bydd ein tîm gweithrediadau yn parhau i fonitro a chasglu adborth cwsmeriaid i sicrhau bod ein gwasanaeth yn hygyrch i’n cwsmeriaid yn ninas Casnewydd a’n rhwydwaith ehangach.”
Bydd rhagor o wybodaeth i gwsmeriaid am y gwasanaethau bws newydd ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf yn Newport Bus - Greener | Doethach | Mwy diogel .