- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
15 Awst 2022
Yr hydref hwn, bydd y gwaith paratoi yn dechrau i adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn Butetown ac ailddatblygu gorsaf Bae Caerdydd.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cadarnhau cynlluniau i adeiladu gorsaf dau lwyfan newydd yng ngogledd Butetown, fel rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ers cenhedlaeth.
Bydd gorsaf bresennol Bae Caerdydd hefyd yn cael ail blatfform, yn ogystal ag arwyddion newydd, sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid a gwelliannau eraill. Bydd unrhyw ddiweddariadau a wneir i arwyddion yr orsaf yn ddwyieithog a byddant yn cael eu datblygu yn sgil y canllawiau yn ein pecyn cymorth brand gorsafoedd.
O osod trac newydd, bydd modd cynnal gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio trenau tram newydd sbon, gydag amserlen newydd fydd ar waith o wanwyn 2024 ymlaen.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae prosiect trawsnewid Llinell y Bae yn rhan bwysig o Fetro De Cymru ac rydym yn falch iawn o allu dechrau gweithio ar yr orsaf newydd sbon yn Butetown cyn diwedd y flwyddyn.
“O 2024 ymlaen, byddwn yn darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus mwy llyfn, gwyrddach a modern a fydd yn creu ystod o gyfleoedd i bobl sy’n byw yn Butetown ac ardal ehangach Bae Caerdydd.
“Rydym yn awyddus i weithio ar y cyd â thrigolion lleol trwy weithdai a sesiynau galw heibio. Pleser yw gallu noddi Carnifal Butetown eleni. Yno, gall pobl gael mwy o wybodaeth a gofyn cwestiynau am y gwaith o drawsnewid Llinell y Bae.”
Roedd cynlluniau cychwynnol blaenorol ar gyfer gwelliannau i Linell y Bae yn cynnwys adeiladu gorsaf Metro yn Sgwâr Loudoun ac estyniad byr i The Flourish, a gafodd eu hadolygu ddiwedd 2020.
Daeth adolygiad a gynhaliwyd yn gynnar yn 2021 i’r casgliad y byddai adeiladu gorsaf drenau ymhellach i’r gogledd o Sgwâr Loudoun yn darparu gwell mynediad i gymuned ehangach Butetown. Byddai hefyd yn caniatáu croesfan o’r dwyrain i’r gorllewin yn Sgwâr Loudoun, tra byddai cadw gorsaf Bae Caerdydd yn darparu gwell mynediad i amwynderau lleol.
Mae'r cynlluniau hyn i gyd-fynd â'r weledigaeth gydweithredol ehangach gan gynnwys gorsaf newydd ar Stryd Pierhead a'r opsiwn o ymestyn y llinell ymhellach. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â’r cyhoedd yn ddiweddarach eleni ynghylch opsiynau i ymestyn y llinell i Gaerdydd Canolog, ac i’r dwyrain tuag at Heol Casnewydd.
Mae trigolion Bae Caerdydd sy’n byw gerllaw’r rheilffordd wedi cael gohebiaeth ynghylch manylion y gwaith, a fydd yn dechrau yn yr Hydref gydag adeiladu compownd ar Rodfa Lloyd George. Byddwn yn gosod compownd adeiladu ar ochr y cledrau o Rodfa Lloyd George i helpu i reoli ein gwaith, storio deunyddiau a darparu cyfleusterau lles i weithwyr.
Bydd gwaith yn dechrau ar adeiladu gorsaf reilffordd newydd Butetown o fis Rhagfyr eleni, gyda gwaith yn cael ei wneud i uwchraddio gorsaf Bae Caerdydd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gorsaf Bae Caerdydd yn parhau i weithredu i deithwyr tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.
Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro o’r enw Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL). Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.