Skip to main content

More life-saving defibrillators for stations across Wales and the borders

02 Medi 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflwyno diffibrilwyr sy’n achub bywydau mewn gorsafoedd ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Y gwaith hwn yw cam diweddaraf y cynlluniau i osod dros 200 o ddiffibrilwyr mewn gorsafoedd a chymunedau ledled Cymru a’r gororau, a ddechreuodd ym mis Chwefror 2022.

Mae diffibrilwyr yn ddyfeisiau symudol pwysig sy’n achub bywydau. Maent yn gallu rhoi sioc drydanol i galon claf pan fydd y galon wedi stopio curo, fel arfer o ganlyniad i ataliad sydyn ar y galon. Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, mae oddeutu 2,800 o ataliadau ar y galon y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn, ond dim ond un o bob 20 o bobl sy’n goroesi.

Mae cyfraddau goroesi yn gostwng 10% bob munud heb CPR neu ddiffibriliwr ac mae defnyddio diffibriliwr o fewn tri munud i ataliad ar y galon yn gallu golygu bod rhywun hyd at 70% yn fwy tebygol o oroesi.

Pan fyddant yn barod i’w defnyddio, bydd y diffibrilwyr yn cael eu cofrestru ar borth pwrpasol Sefydliad Prydeinig y Galon, o’r enw The Circuit, mewn partneriaeth ag Ambiwlans Sant Ioan, Cyngor Dadebru y DU a Chymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlansys. Mae The Circuit yn mapio diffibrilwyr ar gyfer gwasanaethau ambiwlans y GIG ledled y DU er mwyn iddynt allu cyfeirio aelodau o'r cyhoedd at y diffibriliwr agosaf yn gyflym yn y munudau tyngedfennol ar ôl ataliad ar y galon.

Dywedodd Lisa Cleminson, Cyfarwyddwr Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni’n falch o gyflwyno diffibrilwyr ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Mae’r blychau melyn hyn yn hollbwysig i helpu’r rheini sy’n cael ataliad ar y galon, boed nhw’n gwsmeriaid TrC, yn gydweithwyr neu’n aelodau o’r gymuned leol.

“Mae gennym ni ddiffibrilwyr mewn llawer o’n gorsafoedd ar draws ein rhwydwaith yn barod, a bydd y peiriannau newydd ychwanegol hyn yn adnoddau gwerthfawr sy’n achub bywydau.”

“Rydyn ni’n annog cwsmeriaid a’r gymuned i’n cefnogi i gadw’r offer hwn yn ddiogel drwy fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod i Heddlu Trafnidiaeth Prydain am unrhyw achosion o fandaliaeth ar unwaith drwy anfon neges destun i 61016.”

Mae’r prosiect wedi cael ei drefnu gan Karl Gilmore, sef Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC, a ychwanegodd: “Bydd yr holl ddiffibrilwyr ar gael 24 awr y dydd ond, yn bwysicach na dim, bydd pob un yn cael ei restru ar The Circuit er mwyn i staff y gwasanaethau brys wybod ble maen nhw.

“Bydd ein staff yn cael hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r diffibrilwyr ac rydyn ni’n gweithio gydag elusennau a sefydliadau eraill i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cyflwyno hyfforddiant i gymunedau.”

Dywedodd Antony Kelly, Cyfarwyddwr Adeiladu Egis:

“Dim yn aml y byddwch yn cael gweithio ar brosiect sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl, ac yn sicr nid un sy’n gallu achub bywydau’n uniongyrchol. Rydw i’n falch iawn o arwain ein hadran adeiladu yn Egis Transport Solutions, gan weithio ar ran tîm Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru i osod diffibrilwyr sy’n achub bywydau mewn gorsafoedd ar draws rhwydwaith Cymru.

“Ar ôl teimlo’n bersonol effaith aelod agos o’r teulu a fu farw o ataliad ar y galon, mae hyd yn oed yn fwy siomedig clywed bod y diffibrilwyr y mae TrC yn buddsoddi ynddyn nhw’n cael eu fandaleiddio. Mae’r unedau hyn yma i achub bywydau, efallai y bydd angen un arnoch chi neu aelod o’ch teulu, ac ni fyddwch yn gwybod pryd y bydd hynny. Os byddwn yn gweld hyn yn digwydd ar y rhwydwaith, boed ar ddyletswydd ai peidio, rydw i’n annog pawb i’w reportio a helpu i ddiogelu’r asedau hyn. Mae’n drosedd.

“Mae Egis wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod y neges hon yn cyrraedd y rheini sydd angen ei chlywed, a gyda chefnogaeth ein cydweithwyr yn TrC, rydyn ni’n awyddus i ddatblygu rhai rhaglenni allgymorth i helpu i gyfleu’r neges i’r gymuned”

Nodiadau i olygyddion


Gorsaf:

Abercynon
Aberdaugleddau
Abergele a Phensarn
Abertawe
Aberystwyth
Amwythig
Arberth
Bae Caerdydd
Bae Colwyn
Bangor
Betws-y-Coed
Blaenau Ffestiniog
Bwcle
Caer (x2)
Caerdydd Canolog (x4)
Caerdydd Heol y Frenhines (x3)
Caerffili
Caerfyrddin
Caergybi
Casnewydd (x2)
Castell-nedd
Cathays
Cefn-y-Bedd
Cilgeti
Cnwclas
Cogan
Conwy
Coryton
Criccieth
Cydweli
Cyffordd Llandudno
Dinas Powys
Dinbych-y-pysgod
Dolau
Fairbourne
Ffair-fach
Ffynnon Taf
Frodsham
Glanyfferi
Gobowen
Harlech
Hendy-gwyn ar Daf
Henffordd (x2)
Heol Dingle
Hwlffordd
Johnston
Lefel Uchel y Mynydd Bychan
Llandaf
Llandanwg
Llandecwyn
Llandrindod
Llandudno
Llanelli
Llanfairpwll
Llangadog
Llangamarch
Llanharan
Llanhiledd
Llanilltud Fawr
Llanisien
Llanllieni
Llanymddyfri
Llwynbedw
Llwyngwril
Llys-faen a'r Ddraenen Pen-y-graig
Lydney
Maenorbŷr
Neston
Parc Waun-gron
Parcffordd Port Talbot
Penarlâg
Penarth
Pen-bre a Phorth Tywyn
Penfro
Pen-y-bont ar Ogwr
Pen-y-ffordd
Pontarddulais
Prestatyn
Pwllheli
Pye Corner
Radur
Rhisga a Phontymister
Rhiwabon
Rhiwbeina
Rhydaman
Rhyl
Rhymni
Runcorn Dwyrain
Trefforest
Tregŵyr
Treherbert
Tŷ Du
Tŷ Glas
Wrecsam Canolog
Wrecsam Cyffredinol
Wrenbury
Y Bermo
Y Borth
Y Drenewydd
Y Fenni
Y Fflint
Y Pil
Y Rhws Maes Awyr Caerdydd
Y Waun
Ynys y Barri
Yr Heledd-wen
Ystad Trefforest
Ystrad Rhondda