English icon English
Primary school - ysgol gynradd - education - addysg

Cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd

Financial support available for learners and their families

Wrth baratoi am y tymor ysgol newydd, bydd nifer o deuluoedd yn poeni am y cynnydd yng nghostau byw. Mae cymorth ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd yng Nghymru sydd o bosibl yn cael trafferth fforddio costau ysgol, fel gwisg ysgol a chludiant, yn ogystal â rhai cynlluniau am ddim i helpu'ch plentyn i ddysgu.

Dyma wyth cynllun neu gymhorthdal addysg y gallech fod yn gymwys i'w cael.

Cymorth gyda chostau diwrnod ysgol

Gall dysgwyr sydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wneud cais am grant tuag at wisg ysgol, tripiau ysgol, a chyfarpar. Mae'r grant eleni yn £225 i bob dysgwr, neu £300 i'r rhai sy'n mynd i flwyddyn 7 i gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau'r ysgol uwchradd. Mae grantiau eleni yn £100 ychwanegol ar gyfer eleni yn unig.

Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant, p'un a ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio.

Mae cynllun 2022 i 2023 bellach ar agor, ac mae pob blwyddyn ysgol hyd at flwyddyn 11 bellach yn gymwys i gael y grant. Dylai rhieni a gwarcheidwaid gysylltu â'u hawdurdod lleol i wirio eu cymhwysedd a gwneud cais.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Gallai pobl ifanc 16 i 18 oed sydd am barhau mewn addysg fod yn gymwys ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae’n daliad wythnosol o £30 i helpu gyda chostau addysg bellach fel trafnidiaeth neu brydau bwyd.

Gwneir taliadau bob pythefnos, cyn belled â'ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad eich ysgol neu'ch coleg. Gall hyn fod ar gyfer cyrsiau academaidd neu alwedigaethol.

Mae rhagor o wybodaeth am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Help gyda chostau trafnidiaeth

Os ydych yn dilyn cwrs addysg bellach naill ai yn eich ysgol neu'ch coleg lleol, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau trafnidiaeth.

Ymysg y rhai a allai fod yn gymwys mae’r canlynol:

  • pobl ifanc dros 16 oed sy’n astudio mewn ysgol leol ac yn teithio dros bellter penodedig i gyrraedd yno
  • pobl ifanc 16 i 19 oed sy'n astudio'n llawn amser mewn coleg addysg bellach
  • pobl ifanc 19 oed neu’n hŷn, neu sy'n astudio'n rhan amser

Bydd gan eich awdurdod lleol neu goleg ragor o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais am gymorth.

Prydau Ysgol am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu'r ysgol yn llawn amser. Mae hyn yn cynnwys disgyblion meithrin llawn amser mewn ysgolion, yr holl ffordd hyd at ddisgyblion chweched dosbarth yn yr ysgol.

Gallai’ch plentyn fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os byddwch yn derbyn budd-daliadau penodol, megis Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Credyd Treth Plant neu Lwfans Ceisio Gwaith.

Mae angen i chi wneud cais am ginio ysgol am ddim, felly mae'n bwysig gwirio i weld a ydych yn gymwys. Gallwch wneud hynny ar wefan eich awdurdod lleol.  

Gwneir ceisiadau drwy eich awdurdod lleol, a bydd proses ymgeisio hawdd ar-lein gan y rhan fwyaf ohonynt. Cysylltwch â'ch ysgol i gael rhagor o wybodaeth.

O fis Medi ymlaen, bydd prydau ysgol am ddim yn dechrau cael eu cyflwyno ar gyfer pob disgybl Dosbarth Derbyn. Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, bydd pob disgybl ysgol gynradd yn derbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

Efallai y bydd gan eich plentyn yr hawl i dderbyn brecwast am ddim yn yr ysgol gynradd, os yw'r ysgol y bydd yn mynd iddi yn cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol ac os yw'n darparu brecwast am ddim. Mae angen i chi ofyn i'r ysgol am frecwast am ddim i'ch plentyn eu derbyn.

Llyfrau am ddim

Fel rhan o gynllun Caru Darllen Ysgolion, bydd pob disgybl rhwng 3 ac 16 oed mewn ysgol wladol yng Nghymru yn derbyn llyfr i'w gadw.

Bydd ysgolion cynradd yn cael detholiad o lyfrau wedi'u dewis yn ofalus i'w dosbarthu i ddisgyblion, tra bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn derbyn tocyn llyfr i’w gyfnewid am lyfr o'u dewis.

Mae'r cynllun yn cael ei gynnal gan Cyngor Llyfrau Cymru ac yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael o'ch ysgol leol.

Gwersi Cymraeg am ddim

O fis Medi ymlaen, bydd adnodd e-ddysgu newydd yn cael ei dreialu ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sy'n mynychu'r ysgol, coleg neu gynllun prentisiaeth, er mwyn gwella eu sgiliau llafar Cymraeg.

Mae'n rhan o gynlluniau’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i bobl ifanc 16-25 oed, a’r holl staff addysgu, gael mynediad at wersi Cymraeg rhad ac am ddim gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd yr adnodd yn cael ei ddarparu gan Say Something in Welsh a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a bydd yn ategu pecyn ehangach o hyfforddiant i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, p'un a ydyn nhw mewn addysg ai peidio.

Gall y rhai fydd yn gymwys i gael mynediad at yr adnodd gael rhagor o wybodaeth gan eu hysgol, coleg neu ddarparwr cynllun prentisiaeth.

Trwyddedau Office 365 am ddim

Mae Hwb yn wefan sydd â llawer o apiau a meddalwedd am ddim i helpu disgyblion i ddysgu. Mae gan bob athro a dysgwr gyfrif Hwb sy'n rhoi mynediad at adnoddau addysgol ac offer digidol.

Un o nodweddion cyfrifon Hwb yw trwydded Microsoft Office 365 am ddim yn awtomatig, sy'n caniatáu i ddisgyblion gael mynediad ato i gosod yr offer Microsoft Office diweddaraf gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn ogystal â Minecraft: Education Edition.

Mae modd defnyddio'r drwydded am ddim ar hyd at 15 o ddyfeisiau cartref gan gynnwys llechi a ffonau clyfar, yn ogystal â chyfrifiaduron bwrdd gwaith a gliniaduron.

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn

Mae'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn cefnogi dysgwyr cymwys mewn sefydliadau addysg bellach neu'r Brifysgol Agored sy'n wynebu anawsterau ariannol neu y gallai eu mynediad at addysg bellach gael ei gyfyngu gan ystyriaethau ariannol. Bydd pob sefydliad yn penderfynu pa ddysgwyr sy’n gymwys a pha gymorth y gallant ei ddarparu.

Gallai’r cymorth hwn gynnwys y canlynol:

- Grant neu fenthyciad
- Ffioedd dysgu a chostau sy'n gysylltiedig â’r cwrs gan gynnwys, ymysg pethau eraill:

  • ffioedd cofrestru ac arholi cyrff dyfarnu
  • cyfarpar neu ddeunyddiau sy'n hanfodol i'r dysgwr gymryd rhan yn y cwrs
  • costau gofal plant
  • costau teithio
  • llyfrau
  • costau'n ymwneud â mynychu teithiau maes
  • costau'n deillio o anableddau

Gall y rhai sydd am wneud cais am gymorth gael rhagor o wybodaeth gan eu coleg, neu'r Brifysgol Agored.