English icon English
Classroom - E-sgol

Technoleg yn cynyddu’r dewis pynciau i ddisgyblion yng nghefn gwlad Cymru

Technology increasing subject choice for pupils in rural Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu rhaglen arloesol sy’n defnyddio TG i gysylltu ysgolion mewn ardaloedd gwledig, gan gynnig y ddarpariaeth ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin.  

Mae rhaglen ‘E-sgol’ yn defnyddio technoleg fideo i gysylltu dosbarthiadau, fel bod disgyblion un ysgol yn gallu ymuno â dosbarthiadau mewn ysgolion eraill, gan roi mynediad i fyfyrwyr i ystod ehangach o bynciau ar lefel TGAU a Safon Uwch.  

Mae’r prosiect yn caniatáu i athrawon roi adborth byw i ddisgyblion, a gall disgyblion gymryd rhan yn y wers fel pe bai’r athro yn yr un ystafell. Gall y system hefyd gysylltu â phrifysgolion i ddarparu sesiynau cyfoethogi at ddibenion UG a Safon Uwch. 

Lansiwyd E-sgol yng Ngheredigion yn 2018. Mae’r gwersi ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac maent yn caniatáu mwy o ddewis pynciau i ddisgyblion y gallai’r ffaith eu bod mewn ysgol mor wledig gyfyngu arnynt. Erbyn hyn, mae’r pynciau sy’n cael eu haddysgu drwy E-sgol yn cynnwys Mathemateg Bellach, Troseddeg, Gwleidyddiaeth a Mandarin.

Heddiw, bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Llanfyllin i gwrdd â myfyrwyr ac athrawon a gweld y dechnoleg ar waith.  

Dywedodd Kirsty Williams:

“Dw i’n teimlo’n gryf y dylai pob disgybl ysgol yng Nghymru gael yr un cyfleoedd astudio, p’un a ydyn nhw yng nghanol dinas neu yn y wlad.

“Mae E-sgol yn defnyddio technoleg mewn ffordd arloesol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyfyrwyr mewn ardaloedd gwledig drwy gynyddu’r pynciau sydd ar gael iddyn nhw ac ehangu eu hopsiynau o ran gyrfa ar ôl gadael yr ysgol.

“Mae cymryd camau i gefnogi ysgolion gwledig wedi bod yn un o ‘mhrif flaenoriaethau yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Yn ogystal â’n buddsoddiad drwy ein rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif a’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, mae E-sgol yn enghraifft arall o sut rydyn ni’n sicrhau tegwch i ddisgyblion, lle bynnag y maen nhw’n byw.”

Dywedodd Dr Lewis Pryce, athro mathemateg yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin:

“Unwaith y gwnaethon ni ddechrau ar yr addysgu, mi ddiflannodd unrhyw bryderon a oedd gen i am E-sgol. Mae’r broses o addysgu sawl ysgol wedi bod yn llyfn iawn, ac mae’r disgyblion wedi mwynhau’r gwersi. Maen nhw wedi bod yn bleser eu haddysgu. Erbyn hyn, dw i ddim yn gweld unrhyw wahaniaeth rhwng fy ngwersi fideo a’m gwersi traddodiadol.

“Mae’n wych hefyd gallu addysgu Mathemateg Bellach ar lefel Safon Uwch. Heb y prosiect hwn, mi fyddai hynny wedi bod yn annhebygol.”