English icon English
close-up-keys-metal-safety-333838-2

Y Gweinidog Tai i ddelio â’r arfer o godi ffioedd rheoli ystadau ar rydd-ddeiliaid

Housing Minister to address estate management charges paid by freeholders

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r arfer o godi ffioedd ar rydd-ddeiliaid am waith cynnal a chadw a gwasanaethau ar eu hystadau, ac mae'n galw ar bobl ledled Cymru i rannu eu profiadau.

Ar hyn o bryd, gellir codi ffioedd ar berchnogion cartrefi rhydd-ddaliadol mewn datblygiadau tai lle nad yw mannau agored a chyfleusterau yn nwylo’r awdurdod lleol. Gall lesddeiliaid a thenantiaid hefyd orfod talu’r ffioedd hyn, drwy eu taliadau gwasanaeth.

Heddiw, felly, mae Llywodraeth Cymru yn galw ar drigolion, datblygwyr, awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ar sut mae'r system yn gweithio.

Dylai'r penderfyniad i brynu eiddo gael ei wneud bob amser ar sail dealltwriaeth dda o’r goblygiadau, a'r costau a'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth hynny.

Mae'r Gweinidog, felly, hefyd yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i wella'r ymwybyddiaeth ymysg prynwyr o gostau lesddaliad a thaliadau ystadau.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

"Rwyf wedi clywed gan lawer o drigolion sydd wedi cael profiad gwael mewn perthynas â’r costau hyn – dysgu am eu bodolaeth yn hwyr yn y broses brynu, costau’n tyfu’n fwy o hyd, a methu herio gwerth gwael am arian neu wasanaeth annigonol yn gyfnewid am daliad.

"Mae angen inni roi sylw i hyn. Fodd bynnag, rwyf yn ymwybodol bod arferion yn amrywio o le i le, ac mae angen inni seilio’n gweithredoedd ar dystiolaeth gadarn.

"Dyna pam rwy'n gofyn i bawb sydd â phrofiad o daliadau ystadau gyfrannu at ein galwad am dystiolaeth ar y mater. Hefyd, anogaf ymatebwyr i ystyried pa welliannau a allai helpu i fynd i'r afael â'u pryderon ynghylch y system bresennol, fel y bydd unrhyw gamau y gallwn eu cymryd yn seiliedig ar brofiadau pobl.

"Mae hwn yn gam pwysig yn ein ymdrechion i ddeall y sefyllfa y mae llawer o berchenogion tai a phreswylwyr yn ei hwynebu."

Bydd yr alwad am dystiolaeth yn para am 12 wythnos a gellir ei gweld yma: https://llyw.cymru/taliadau-ystad-ar-ddatblygiadau-tai