English icon English
firefighers-2

Gweinidog yn amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau tân ac achub Cymru

Minister sets out new vision for Wales’ fire and rescue services

Gallai gwasanaethau tân ac achub Cymru gael rôl ehangach wrth gadw pobl yn ddiogel fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol. Dyma gyhoeddiad y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn heddiw.

Mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru yn parhau i gael llwyddiant wrth leihau nifer a difrifoldeb achosion o dân.

Cymru sydd â’r rhaglen fwyaf helaeth o ymweliadau i wirio diogelwch tân yn y cartref ym Mhrydain Fawr, sy'n canolbwyntio’n effeithiol ar y bobl sydd fwyaf mewn perygl oherwydd tanau. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu'r gwasanaeth gyda £660,000 mewn cyllid i sicrhau bod yr ymweliadau hyn, a’r dyfeisiau diogelwch sy’n cael eu darparu fel rhan ohonynt, yn rhad ac am ddim i ddeiliaid y tai. 

Mae llwyddiant y rhaglen yn golygu bod y galw ar y gwasanaeth yn awr mor isel, bod y gwasanaeth yn llai a llai prysur mewn sawl rhan o Gymru. 

Dim ond i lond llaw o danau y mae nifer o orsafoedd tân gwledig yn ymateb iddynt bob mis bellach. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd recriwtio a chadw diffoddwyr tân ar alwad, y mae’r rhan fwyaf o Gymru yn dibynnu arnynt, sy'n arwain at risg y bydd cynaliadwyedd y Gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig mewn perygl. 

Hefyd, mae'r Gwasanaeth Tân yn dal i ymateb i nifer uchel o alwadau tân diangen - sy'n fwy niferus na’r tanau go iawn, ac maent yn cyfrif am oddeutu 40% o’r holl achosion y mae’r Gwasanaeth yn rhoi sylw iddynt, gan arwain at ddefnyddio llawer o adnoddau am ddim budd o gwbl. 

Mae'r weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol sy'n cael ei hamlinellu heddiw yn cynnwys y posibilrwydd o roi'r cyfrifoldeb i wasanaethau tân ac achub i ymateb i amryw o fygythiadau i iechyd a diogelwch pobl, o ran atal ac ymateb i argyfwng.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

"Hoffwn ddiolch i'n gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru am barhau i lwyddo i leihau nifer yr achosion o dân a pha mor ddifrifol yw'r tân. Does gen i ddim amheuaeth fod y llwyddiant hwn yn rhannol oherwydd y pwyslais mawr y mae’r Gwasanaeth Tân yn ei roi ar atal tanau a gwella ymwybyddiaeth o risgiau tân. 

“Mae diffoddwyr tân wedi cael eu hyfforddi’n dda i ddelio ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, yn ogystal â thân. Mae ganddynt yr arbenigedd a’r parch i godi ymwybyddiaeth ynghylch bygythiadau nad ydynt yn danau a’u hatal hefyd. Mae potensial amlwg i'r gwasanaeth wneud cyfraniad gwirioneddol at gefnogi’r GIG yn benodol, boed hynny o ran ymateb i argyfyngau meddygol neu helpu i atal damweiniau fel codymau yn y cartref; ac mae tystiolaeth glir y gall hyn sicrhau gwell canlyniadau ac arbedion sylweddol. Mae nifer o enghreifftiau da o hyn yn digwydd, ond maent yn aml ar raddfa fechan ac i’w gweld yn achlysurol. 

“Rwy’n credu bod gofyn i ni fynd ymhellach, a gwneud hynny mewn ffordd fwy cyson a strategol. Rwy’n dymuno gweld Gwasanaeth Tân ac Achub sy’n delio ag amryw o fygythiadau i iechyd a diogelwch pobl, a hynny o ran atal ac ymateb i argyfyngau, gan ategu yn hytrach na dyblygu gwaith gweithwyr proffesiynol eraill. Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni fanteisio i’r eithaf ar werth cyhoeddus y Gwasanaeth a sicrhau dyfodol cynaliadwy ar ei gyfer. 

“Mae potensial go iawn i fanteisio ar lwyddiant y Gwasanaeth a chynyddu ei werth i bobl Cymru. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall yn y man ynglŷn â'r ffordd ymlaen.”

I gyflawni'r weledigaeth:

  • Mae arnom angen cael cytundeb ynghylch tâl ac amodau diffoddwyr tân, sy’n adlewyrchu rôl ehangach yn deg. Mae trafodaethau dwyochrog ar lefel y DU wedi bod yn araf iawn yn hyn o beth. Er nad yw Gweinidogion Cymru yn dymuno camu y tu hwnt i’r dull negodi presennol, maent yn credu y gallai pennu cyfres o ofynion cliriach, wedi’u diffinio’n well i Gymru roi’r hwb angenrheidiol ymlaen i’r trafodaethau. Mae'r Dirprwy Weinidog yn ailadrodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried darparu cymorth ariannol ar gyfer cytundeb tâl sy’n bodloni anghenion Cymru a diffoddwyr tân Cymru.
  • Mae arnom angen cytundeb cadarn a strategol rhwng y Gwasanaeth Tân, y GIG a phartneriaid eraill, er mwyn gallu defnyddio adnoddau’r cyntaf lle mae eu hangen fwyaf. Mae uwch reolwyr eisoes yn cynnal trafodaethau adeiladol ynghylch hyn.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r ATA i sicrhau bod ganddynt y mecanweithiau cyllid a llywodraethu angenrheidiol i gefnogi'r rôl ehangach hon wrth symud ymlaen.