English icon English
black-and-grey-keys-792034-2

Datgelu cyfraith newydd i roi mwy o sicrwydd meddiannaeth i bobl sy'n rhentu cartref yng Nghymru

New law to provide greater security of occupation for people who rent a home in Wales unveiled

O dan gyfraith newydd a ddatgelir heddiw gan Lywodraeth Cymru, rhoddir diogelwch o 12 mis i bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartref rhag cael eu troi allan ar ddechrau tenantiaeth newydd cyn belled nad ydynt wedi torri telerau eu contract.

Disgwylir i'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) gael ei gyflwyno gerbron y Senedd heddiw gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Ymhlith elfennau eraill, bydd y Bil yn ymestyn y cyfnod ar ddechrau tenantiaeth newydd pan na all landlord roi hysbysiad rhybudd i chwe mis.  Bydd hefyd yn ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf y mae'n rhaid i landlord ei ganiatáu cyn dod â chontract i ben, cyn belled na thorrwyd y telerau, o ddau fis i chwe mis. Gyda'i gilydd, bydd y newidiadau hyn yn rhoi 12 mis o sicrwydd meddiannaeth i ddeiliaid contractau cyn belled na thorrwyd y contract.

Bydd hawliau landlordiaid i'w heiddo yn parhau i gael eu gwarchod, gan y byddant yn dal i allu rhoi hysbysiad cymryd meddiant â chyfnod rhybudd byrrach - sef mis - os yw'r contract wedi'i dorri.

Nod y newid arfaethedig yn y gyfraith yw rhoi sicrwydd mwy i bobl sy'n rhentu eu cartref, yn enwedig i'r rheini sy'n byw yn y sector rhentu preifat, gan alluogi landlordiaid ar yr un pryd i adennill meddiant o'u heiddo, pan fo angen, o fewn cyfnod priodol.

Mae'r Bil yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - un o'r darnau deddfwriaeth mwyaf arwyddocaol i'r Senedd ei basio - a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau dros filiwn o bobl sy'n rhentu cartref yng Nghymru.

Os caiff y Bil ei basio gan Aelodau'r Senedd, rhagwelir y daw'r gyfraith newydd i rym yn y gwanwyn 2021.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

"Bydd y Bil newydd dw i'n ei ddatgelu heddiw yn ychwanegu mesurau sylweddol pellach i warchod y rheini sy'n rhentu eu cartref yng Nghymru at y mesurau sydd eisoes wedi'u cynnwys yn ein deddfwriaeth Rhentu Cartrefi arloesol.  Er enghraifft, bydd yn sicrhau nad oes modd rhoi hysbysiad cymryd meddiant, lle na thorrwyd y contract, am chwe mis cyntaf meddiannaeth y tenant; a lle dymunir adennill meddiant, bydd yn rhaid rhoi chwe mis o rybudd i ddeiliad y contract. 

"Bydd hyn yn rhoi amser gwerthfawr i unigolion a theuluoedd sy'n wynebu bygythiad o adennill meddiant o dan adran 173, ynghyd â'r cyrff a'r asiantaethau sy'n eu cefnogi, i ddod o hyd i gartref sy'n addas iddynt ac i wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i sicrhau bod y profiad o symud i'w cartref newydd yn un llyfn.       

"Dw i o'r farn y bydd fersiwn ddiwygiedig y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn sicrhau sail gadarn i rentu yng Nghymru: gan gydbwyso anghenion a hawliau tenantiaid a landlordiaid, a chan helpu i sicrhau bod ein sector rhentu preifat yn opsiwn i unigolion a theuluoedd sy'n cael ei reoli'n dda."