English icon English
The National Digital Exploitation Centre

Coleg Seiber ar-lein er mwyn meithrin dawn ddigidol mewn cenhedlaeth newydd

Cyber College Cymru coming online for new generation of digital talent

Cwmnïau blaenllaw a sefydliadau addysg Cymru’n dod ynghyd er mwyn creu llwybr newydd at yrfa mewn technoleg

Mae cwmnïau blaenllaw a dau goleg o Gymru wedi dod ynghyd i dreialu menter newydd sydd wedi’i chynllunio i greu llwybr newydd at yrfa mewn technoleg i genhedlaeth newydd o ddysgwyr digidol.

Menter yw Coleg Seiber Cymru sy’n cynnig cannoedd o oriau o fewnbwn gan ddiwydiant yn ogystal â chwricwlwm newydd sydd wedi’i ddatblygu gan y colegau a Phrifysgol De Cymru fel rhan o Raglen Mewnwelediad Strategol, ariannwyd gan CCAUC.

Os yw’n llwyddiannus, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno ar hyd a lled Cymru.

Ym mis Medi, bydd dwy garfan o 20 o fyfyrwyr yn dechrau astudio yng Ngholeg Penybont ac ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, Coleg Gwent.

Bydd eu hastudiaethau’n arwain at ennill Diploma Estynedig BTEC, cymhwyster sy’n cyfateb i 3 Lefel A.

Admiral, Fujitsu a Thales yw’r partneriaid o fyd busnes sydd wedi bod ynghlwm â llunio’r cwricwlwm. Yn y flwyddyn gyntaf, byddant yn cynnig dros fil o oriau o fewnbwn i’r cwrs gan gynnwys mentora, darlithoedd, lleoliadau gwaith a phrofiad yn y diwydiant i’r myfyrwyr hynny a ddewisir i fod yn rhan o Goleg Seiber Cymru.

Meddai’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams mewn digwyddiad i athrawon a myfyrwyr yn y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol ym Mlaenau Gwent, “Rydym ni o hyd yn  chwilio am ffyrdd i weithio gyda chyflogwyr er mwyn annog dysgu sy’n hyblyg ac yn berthnasol.

Mae seiber yn fwy na dim ond bod yn ddiogel ar lein, mae’n cyffwrdd â phob rhan o’n bywydau bob dydd.

Os medrwn ni gynnig llwybr newydd i bobl ifanc yn eu harddegau i astudio seiber, un ai  mewn addysg uwch neu drwy fynd yn syth i mewn i’r diwydiant, byddwn yn rhoi mantais go iawn iddyn nhw mewn diwydiant pwysig sy’n tyfu.”

Mae Steve Cottrell yn Brif Swyddog Grŵp Diogelwch Gwybodaeth i Admiral ac yn gadeirydd pwyllgor gwaith y Coleg Seiber. Meddai, “Mae menter Coleg Seiber Cymru yn golygu bod partneriaid o fewn y diwydiant yn dod ynghyd i gydweithio gyda’r colegau lleol er mwyn cynnig rhywbeth newydd a pherthnasol ar gyfer datblygu’r sgiliau sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol.”

“Mae meithrin dawn pobl ifanc yn eu harddegau o fudd cyffredin i ni; trwy roi cyfle i iddyn nhw ystyried gyrfa mewn seiber yn ogystal â chynnig yr addysg a’r profiad sydd ei angen er mwyn gwireddu’r uchelgais honno. Mae Coleg Seiber Cymru yn gynllun arloesol gwych sy’n cael ei yrru gan yr hyn sydd ei angen arnom ym myd diwydiant a thechnoleg.”

Dywedodd Dr Alyson Thomas, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid CCAUC: “Mae wedi bod yn bleser gallu cyllido Prifysgol De Cymru yn ei gwaith i ddod i ddeall go iawn beth yw anghenion cyflogwyr a diwydiant, fel y gallwn greu cwricwlwm sy’n meithrin sgiliau digidol rhagorol. Mae paru cyflogwyr â sefydliadau addysg bellach ac uwch wedi bod yn hollbwysig yn y broses o hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o’r anghenion digidol yn y De-ddwyrain. Mae’n braf gweld y partneriaid yn adeiladu ar y cymorth a ddarparwyd gennym wrth iddyn nhw lunio model ar gyfer cwricwlwm seibr newydd a llwybrau i ddysgwyr o lefel tri a thu hwnt.”