English icon English
W Train stats - Lead

Y twf mwyaf yn y defnydd o orsafoedd trên mewn mwy na degawd

Train station use sees biggest growth in more than a decade

Gwelwyd 9.4% o dwf yn y defnydd o orsafoedd trên yng Nghymru yn 2018-19, y cynnydd blynyddol mwyaf mewn mwy na degawd.

Datgelwyd hyn mewn ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Chwefror sy'n mesur y nifer sy'n mynd i mewn ac allan o orsafoedd ledled Cymru. Mae'r ystadegau'n ymdrin â theithiau pob cwmni yng Nghymru.

Gorsaf Caerdydd Canolog yw'r brysuraf yng Nghymru o hyd, gyda rhagor na 14 miliwn yn ei defnyddio, rhyw 25% o holl ddefnyddwyr gorsafoedd. Y tu allan i Gaerdydd, gorsafoedd Casnewydd, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr oedd y gorsafoedd a ddefnyddiwyd fwyaf, a Bangor a'r Rhyl oedd y rhai prysuraf yn y Gogledd.

O'r 20 gorsaf brysuraf, roedd mwy na'u hanner ar rwydwaith lein y Cymoedd. Yn 2018-19, cafwyd cyfanswm o 57 miliwn o symudiadau gan bobl i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru. Dyna dwf blynyddol o 9.4%, y cynnydd canrannol mwyaf ers 2007-08. Mae'n rhan o'r 75% o gynnydd yn y defnydd o orsafoedd ers 2004-05.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:

"Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod cynnydd yn y galw am wasanaethau'r rheilffyrdd, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein rhaglen uchelgeisiol i ddiwygio'r rheilffyrdd i gwrdd â'r galw hwnnw.

"Rydym yn benderfynol o wella'r gwasanaethau rheilffyrdd a bydd ein buddsoddiad o £5bn yn arwain at fwy o drenau a threnau mwy modern, gyda'r Metro'n creu systemau trafnidiaeth integredig a fydd yn ei gwneud yn haws mynd o un lle i'r llall.

"Beth mae hyn hefyd yn ei ddangos yw bod angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r £1bn o ddiffyg buddsoddi mewn gorsafoedd a seilwaith arall. Rydym yn buddsoddi bron £200m i wella'n gorsafoedd, ond rhaid i Lywodraeth y DU ysgwyddo'i chyfrifoldebau hefyd.

Ym mis Medi 2019, cadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru fanylion eu gweledigaeth ar gyfer gwella gorsafoedd, sef buddsoddiad o £194m fydd yn golygu gwelliannau ym mhob un o'r 247 o orsafoedd ar rwydwaith Cymru a'r Gororau.

Rhwng Ionawr a Mawrth eleni, caiff dros 100 o orsafoedd eu glanhau'n drylwyr fel rhan o'r cynlluniau i harddu gorsafoedd. Bydd teithwyr yn cael elwa ar gysgodfannau newydd, mannau eistedd gwell, mwy o lefydd parcio beiciau, arwyddion gwell a mwy o CCTV.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru: