English icon English
Map o'r Almaen

5 peth nad oeddech chi o bosib yn ei wybod am y cysylltiadau rhwng Cymru â’r Almaen

5 things you may not have known about Wales’s links with Germany

Yr wythnos nesaf bydd Dr Peter Wittig, Llysgennad yr Almaen yn y DU, yn ymweld â Chymru ac yn mynd ar daith o amgylch cwmnïau o’r Almaen sy’n gweithio yng Nghymru. Bydd hefyd yn cyfarfod â’r Prif Weinidog ac Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Cyn i Dr Wittig ymweld, rydym wedi llunio rhestr sydyn o rai o’r pethau sy’n cysylltu Cymru â’r Almaen.

1 - Un o bartneriaid masnachu mwyaf Cymru

Yr Almaen oedd cyrchfan ychydig dros 18 y cant o’r holl nwyddau a allforiwyd o Gymru i wledydd y tu allan i’r DU yn 2018. Roedd gwerth y nwyddau hyn ychydig mwy na £3 biliwn!

Yn ôl sector cynnyrch, y categorïau mwyaf arwyddocaol oedd ‘Peirianwaith ac offer trafnidiaeth’, ‘Mwynau, tanwydd, deunyddiau iro etc.’, a ‘Nwyddau gwneuthuredig’.

dock-441989 960 720-2

2 - Cysylltiadau prifysgol

Ar ôl Tsieina, o’r Almaen y daw’r nifer mwyaf o fyfyrwyr o unrhyw wlad y tu allan i’r DU i astudio mewn prifysgol yng Nghymru.

Ym mlwyddyn academaidd 2018/19, amcangyfrifir bod 680 o fyfyrwyr o’r Almaen wedi cofrestru ar eu blwyddyn gyntaf yn un o wyth prifysgol Cymru.

library-2616960 960 720-2

3 - Gefeillio trefi

Mae amryw o drefi a dinasoedd Cymru wedi gefeillio â thref neu fwrdeistref yn yr Almaen. Mae Caerdydd wedi gefeillio â mwy nag un ardal yn yr Almaen, a’r cysylltiad rhyngddi â Stuttgart a sefydlwyd gyntaf. Mae Aberystwyth wedi gefeillio â Kronberg im Taunus, Abertawe â Mannheim, Casnewydd â Heidenheim a Wrecsam ag ardal Märkischer Kreis.

map-2236961 960 720-2

4 - Mae Cymru yn denu llawer o ymwelwyr o’r Almaen

Mae’r Almaen yn cyfrannu’n sylweddol at y diwydiant Twristiaeth yng Nghymru.

O ran nifer yr ymwelwyr o unrhyw wlad â Chymru, mae’r Almaen yn rhannu’r ail safle. O’r Iwerddon y daw’r nifer mwyaf. Yn ôl ffigurau diweddar, mae cyfanswm o 87,000 o ymwelwyr yn dod o’r Almaen bob blwyddyn.

Mae hyn yn cynrychioli wyth y cant o’r holl ymweliadau rhyngwladol, a thua saith y cant o gyfanswm y gwariant twristiaeth.

snowdonia-2975437 960 720-2


5 - Sefydlwyd un o allforion mwyaf adnabyddus Cymru gan fewnfudwyr o’r Almaen a oedd yn hiraethu am gartref

Ivan Levinstein ac Otto Isler, a oedd wedi mewnfudo i Gymru o’r Almaen, sefydlodd cwmni Wrexham Lager ym 1881.

Roedden nhw’n awyddus i ail-greu’r lager roedden nhw wedi ei fwynhau gartref – dewisodd y ddau yr ardal hon yn arbennig oherwydd ansawdd y dŵr tanddaearol ar gyfer bragu!

beer-2689537 960 720-2