English icon English
cyber-security-2

Dyffryn Silicon: Hybu safonau rhyngwladol seibr Cymru i’r UD a Canada

The Silicon Valleys: Promoting Wales’s world-class cyber credentials to the US and Canada

Ar ei hymweliad cyntaf â Gogledd America ers lansio Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, mae’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fasnach ryngwladol, Eluned Morgan, yn teithio i Ganada ac Arfordir Gorllewinol America yr wythnos nesaf i gyfarfod uwch-arweinwyr busnes, cynrychiolwyr y llywodraeth a Chymry yn yr ardal. 

Unol Daleithiau America oedd buddsoddwr mewnol mwyaf Cymru yn 2019, gydag oddeutu 320 o gwmnïau yr UD yng Nghymru, yn cefnogi bron 50,000 o bobl.  Mae gan Gymru gysylltiadau agos hefyd â Chanada, gyda 40 o gwmnïau o Ganada yng Nghymru yn 2019, yn cyflogi dros 6,000 o bobl.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Eluned Morgan: “Mae America a Canada ymhlith partneriaid masnachu mwyaf Cymru, gyda Cymru yn allforio gwerth £2.8 biliwn o nwyddau i America a Canada yn 2018.” 

“Wrth i’r DU symud i gam dau ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd, mae cytundebau masnach yn cael eu trafod, a chysylltiadau rhyngwladol yn cael eu had-drefnu.  Mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen ein bod yn hyrwyddo ein gwlad fodern, hyderus, uwch-dechnoleg, greadigol a chynaliadwy, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal cysylltiadau busnes a masnach clos gyda’n marchnadoedd pwysicaf.  

Yn ystod ei hymweliad, bydd y Gweinidog yn hyrwyddo Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, ac enw da cynyddol Cymru, sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, fel gwlad dechnegol a chanolfan seibr-ddiogelwch.  Yn Canada a San Francisco, bydd y Gweinidog yn cynnal trafodaethau gyda rhai o brif gwmnïau technegol a seibr-ddiogelwch y byd, i edrych ar gyfleoedd i gynyddu presenoldeb Cymru ym maes diogelwch seibr a lled-ddargludyddion cyfansawdd.  

Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae disgwyl i’r farchnad seibr-ddiogelwch fod werth dros 240 biliwn USD erbyn 2025 ac mae Cymru eisoes yn arwain yn y maes hwn. 

“Mae cwmnïau Seibr yng Nghymru wedi elwa o’n sefydliadau academaidd gwych gyda cyfleusterau ymchwil o safon byd-eang yn ogystal â’r ffaith ein bod yn agos at GCHQ yn Cheltenham a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Corsham

“Byddaf yn gwneud yn siŵr yn ystod fy ymweliad yr wythnos nesaf ein bod yn hyrwyddo’r gwaith neilltuol yr ydyn ni eisoes yn ei wneud yng Nghymru, yn llunio cysylltiadau newydd ac yn cydweithio â busnesau yn y DU a Canada ac yn denu mwy o fusnesau i Gymru.”