English icon English

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn cadarnhau dau achos newydd o Goronafeirws (COVID-19)

Chief Medical Officer for Wales confirms two new cases of Coronavirus (COVID-19)

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi cadarnhau bod dau glaf pellach yng Nghymru wedi profi'n bositif am Goronafeirws (COVID -19).

Mae'r cleifion, sy'n byw yn yr un tŷ, yn dod o ardal awdurdod lleol Sir Benfro ac wedi dychwelyd o Ogledd yr Eidal yn ddiweddar. Mae'r cleifion yn cael eu rheoli mewn lleoliad priodol yn glinigol.  

Dywedodd Dr Atherton:

“Gallaf gadarnhau bod dau unigolyn ychwanegol yng Nghymru wedi profi'n bositif am goronafeirws (COVID-19), gan wneud cyfanswm yr achosion positif yng Nghymru yn bedwar.

“Mae'r ddau unigolyn yn byw yn yr un tŷ yn ardal awdurdod lleol Sir Benfro ac wedi dychwelyd yn ddiweddar o Ogledd yr Eidal. Maen nhw'n cael eu rheoli mewn lleoliad priodol yn glinigol. Mae pob mesur priodol i ddarparu gofal i'r unigolion yn cael eu gweithredu ac i leihau'r risg o drosglwyddo i eraill.

“Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle yma i sicrhau'r cyhoedd bod Cymru a'r DU gyfan yn barod ar gyfer y mathau yma o ddigwyddiadau. Gan weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru ac yn y DU, rydyn ni wedi gweithredu'r ymateb rydyn ni wedi'i gynllunio, gyda mesurau rheoli haint cadarn yn eu lle i warchod iechyd y cyhoedd." 

I warchod cyfrinachedd cleifion, ni fydd unrhyw fanylion pellach am yr unigolion yn cael eu rhyddhau.