English icon English
Canva - Single Reusable Bag-2

Dweud eich dweud am gynlluniau i greu Cymru ddiwastraff

Have your say on plans to create a zero waste Wales

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn am ei chynlluniau i wneud Cymru y brif wlad ailgylchu yn y byd ac i ddod yn economi gylchol, mewn cyfres o sesiynau ymgynghori ar 'Fwy nag Ailgylchu'

Dyma'ch cyfle chi i fynegi'ch barn am yr hyn sydd angen ei wneud i leihau ymhellach ein defnydd o blastig untro, i helpu ac addysgu cymunedau a busnesau i wneud gwahaniaeth ac i weithio gyda'n gilydd i roi blaenoriaeth i gynhyrchu llai o wastraff ac ailgylchu.

Mae'r strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn disgrifio sut y gallwn ddod â'r economi gylchol i Gymru ac yn nodi'r camau nesaf ar gyfer dileu gwastraff a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Amcan economi gylchol yw defnyddio adnoddau gyhyd ag y medrwn, dileu gwastraff a gwneud defnyddio adnoddau'n effeithlon yn rhan o ddiwylliant Cymru. I helpu i gwrdd â'r amcanion hyn, bydd y strategaeth yn disgrifio cynigion i edrych yn fanylach sut mae adnoddau'n cael eu defnyddio, annog pobl i ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu mwy o gynnyrch a deunydd a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol y bydd economi gylchol yn eu cynnig.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau i glywed barn y cyhoedd ynghylch sut y gall Cymru barhau i fod yn arweinydd byd ym maes ailgylchu a symud at fod yn ddiwastraff erbyn 2050.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

"Mae Cymru  bellaar y blaen o safbwynt ailgylchu ond rydym am wneud mwy. Amcan Llywodraeth Cymru yw cael economi gylchol yng Nghymru, lle rydym yn defnyddio llai o wastraff, plastig a deunydd pacio ac yn eu defnyddio gyhyd ag y medrwn.

"Cofleidiodd Cymru'r egwyddor a dangos y ffordd trwy godi tâl am fagiau siopa untro  ac rydym am glywed beth arall y gallwn ni ei wneud i wireddu'n huchelgais o fod yn genedl ddiwastraff.

"Gan fod cymunedau a busnesau ar draws Cymru’n cymryd camau a hoffwn weld cymaint â phosibl o bobl o Arberth yn dod i’r digwyddiadau hyn. Bydd yn gyfle i leisio eich barn a hefyd gyfrannu at sicrhau bod Cymru’n parhau i arwain ym maes yr amgylchedd. "

 

DIWEDD