English icon English
Canva - Single Reusable Bag-2

Cyfle i ddweud eich dweud am gynlluniau i greu Cymru ddiwastraff

Have your say on plans to create a zero waste Wales

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar ei chynlluniau i wneud Cymru y brif wlad ailgylchu yn y byd, a'n helpu ni i ddod yn economi gylchol, mewn cyfres o sesiynau ymgynghori ar 'Fwy nag Ailgylchu'

Dyma eich cyfle chi i ddweud eich dweud am yr hyn y mae angen ei wneud i leihau ymhellach faint o blastig untro rydyn ni'n ei ddefnyddio, i helpu ac addysgu cymunedau a busnesau i wneud gwahaniaeth ac i weithio gyda'n gilydd i roi blaenoriaeth i gynhyrchu llai o wastraff ac ailgylchu. 

Mae'r strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn disgrifio sut y gallwn ni sicrhau economi gylchol yng Nghymru ac yn nodi'r camau nesaf ar gyfer dileu gwastraff a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Amcan economi gylchol yw defnyddio adnoddau cynifer o weithiau ag y bo modd, dileu gwastraff a gwneud defnyddio adnoddau'n effeithlon yn rhan o ddiwylliant Cymru. I helpu i gyflawni'r amcanion hyn, bydd y strategaeth yn disgrifio cynigion ar gyfer edrych yn fanylach ar sut mae adnoddau'n cael eu defnyddio, annog pobl i ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu mwy o gynnyrch a deunyddiau, a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd economaidd a chymdeithasol y bydd economi gylchol yn eu cynnig.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau er mwyn gwrando ar farn y cyhoedd ynghylch sut y gall Cymru barhau i arwain y byd ym maes ailgylchu a symud tua at Gymru ddiwastraff erbyn 2050.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blethyn:

"Mae Cymru yn un o arweinwyr y byd ym maes ailgylchu, ond hoffen ni fynd ymhellach a sicrhau economi gylchol yng Nghymru – lle mae gwastraff, plastig a deunyddiau pecynnu yn cael eu lleihau ac mae pethau'n cael eu defnyddio cynifer o weithiau ag y bo modd.

"Gwnaeth Cymru arwain y ffordd wrth gyflwyno'r tâl am fagiau siopa untro,  a hoffen ni glywed eich barn ar beth arall gallwn ni ei wneud i helpu i gyrraedd ein nod i fod yn wlad ddiwastraff.

"Dw i'n gwybod bod cymunedau a busnesau ledled Cymru yn cymryd camau, a hoffen ni weld cymaint o bobl â phosibl o Gas-gwent yn dod i'r digwyddiadau hyn. Dyma gyfle nid yn unig i ddweud eich dweud ond hefyd i chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn un o arweinwyr yr agenda amgylcheddol."

Dewch â rhannu eich syniadau ar ddydd Llun 9 Mawrth rhwng 12.30pm a 4.30pm yng Ngwesty'r Beaufort, Cas-gwent, neu yn Neuadd The Drill yng Nghas-gwent rhwng 6pm a 7.30pm.

DIWEDD