English icon English

Cynllun llwyddiannus Llwgu yn ystod y Gwyliau yn cael ei gyflwyno ledled Cymru

Successful holiday hunger scheme rolled out across Wales

Bydd cynllun peilot sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd a llwgu yn ystod y gwyliau yn dychwelyd eleni – gyda chyllid Llywodraeth Cymru yn codi o £100,000 i £1m.

Llynedd cynigiodd cynllun peilot Gwaith Chwarae Llwgu yn ystod y Gwyliau ddarpariaeth bwyd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan heddiw (Chwefror 5) y bydd y cynllun yn dychwelyd, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer y ddarpariaeth eleni. Bydd cyllid yn cael ei gynnig i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Dan y cynllun peilot yn 2019, darparwyd mwy na 13,000 o brydau bwyd ar draws 98 o safleoedd yn ystod gwyliau'r haf a hanner tymor mis Hydref. Eleni bydd y cynllun yn gallu rhedeg ym mhob gwyliau o Pasg 2020 hyd at hanner tymor Chwefror 2021. Gobeithir y bydd degau o filoedd yn rhagor o blant yn cael eu bwydo diolch i'r arian ychwanegol.

Mae gwerthusiad o'r cynllun peilot, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn dangos bod bron i hanner y plant a holwyd yn dweud eu bod yn teimlo'n llai llwglyd ar ôl bod mewn sesiwn Llwgu yn ystod y Gwyliau. Roedd nifer hefyd yn dweud eu bod wedi profi bwyd newydd, a bron i un o bob pedwar plentyn yn dweud iddynt fwyta mwy o lysiau a ffrwythau. Yn ogystal â darparu bwyd, canfu'r gwerthusiad fod plant yn yfed mwy o ddŵr ac yn gwneud mwy o ymarfer corff, gyda bron i dri chwarter yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar weithgaredd newydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: "Gall gwyliau ysgol fod yn heriol iawn i deuluoedd. Mae cynllun peilot Llwgu yn ystod y Gwyliau wedi dangos sut gall bwyd maethlon a chyfleoedd chwarae cyfoethog gael effaith gadarnhaol ar blant. Mae'r cynllun peilot wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rwy'n hynod o falch i ni fedru cynyddu'r cyllid i £1m, sy'n golygu bod modd i ni helpu hyd yn oed mwy o deuluoedd ar draws Cymru eleni.

Un prosiect a fanteisiodd ar y cynllun peilot llynedd yw Ffydd mewn Teuluoedd o Abertawe, a ddywedodd: "Roedd medru cynnig bwyd iach a maethlon yn ystod sesiynau'r gwyliau yn ein galluogi i leddfu'r straen sydd ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol. Gall y gwyliau fod yn gyfnod o straen, a gyda'r pwysau ariannol ychwanegol gall rhai teuluoedd ei gweld yn anodd dygymod. Mae bod yn rhan o'r fenter llwgu yn ystod y gwyliau wedi helpu nifer o deuluoedd. Yn ystod yr haf llynedd, yn ardal Bôn-y-maen yn unig roedd 56 o blant yn manteisio ar ein sesiynau cynllun chwarae, gyda 194 o leoedd yn cael eu cynnig ym mis Awst. Roedd modd i ni gynnig 15 sesiwn deuluol gan ddarparu 191 pryd bwyd dros yr haf."

Yn Sir Ddinbych, llwyddodd Llwgu yn ystod y Gwyliau i helpu'r gymuned leol drwy dimau Chwarae a Thai Cymunedol Sir Ddinbych, a fu'n darparu amrywiol weithgareddau a gemau i gynnwys plant a theuluoedd yn ystod y gwyliau hanner tymor. Roedd hyn yn cynnwys darparu cinio iach i bob plentyn. Darparwyd 60 cinio iach mewn tair sesiwn a gynhaliwyd mewn 2 ardal chwarae gymunedol yn y Rhyl ac 1 yn Rhuallt.