English icon English
TISA-2

Cam-drin rhywiol yw hyn

This is sexual abuse

Lansio ymgyrch newydd heddiw a gynlluniwyd gan oroeswyr camdriniaeth rywiol i helpu pobl i adnabod yr arwyddion

Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio heddiw, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol, er mwyn rhoi diwedd ar y tawelwch ynghylch cam-drin rhywiol.

Mae ymgyrch 'Cam-drin Rhywiol yw Hyn' yn helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin rhywiol ac yn eu grymuso i chwilio am gymorth.

Mae'r ymgyrch yn taflu goleuni ar y mathau gwahanol o gam-drin rhywiol, gan gynnwys: ymosodiadau rhywiol, treisio, galw enwau rhywiol neu fychanol, cam-drin plant yn rhywiol, llosgach, aflonyddu ac anffurfio organau cenhedlu benywod.

Mae 'Cam-drin Rhywiol yw Hyn' yn rhan o ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar drais domestig yng Nghymru.

Daeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) i rym yn 2015, ac mae gwasanaeth gwybodaeth a chyngor, Byw Heb Ofn, yn cynnig cymorth 24/7 drwy linell gymorth a chyfleuster gwe-sgwrsio byw.

Bu goroeswyr camdriniaeth o'r fath yn helpu i ddatblygu'r ymgyrch, ac mae profiadau go iawn wedi'u hail-greu ar gyfer hysbysebion digidol a radio sy'n cael eu darlledu o heddiw ymlaen. Mae'r hysbysebion yn defnyddio llais go iawn un o gynghorwyr llinell gymorth Byw Heb Ofn.

Nod y straeon pwerus yw helpu pobl i adnabod patrymau ymddygiad y maent efallai yn uniaethu â nhw a sicrhau eu bod yn gwybod bod cymorth ar gael ledled Cymru.

Mae ystadegau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dangos mai cyffwrdd oedd y math mwyaf cyffredin o ymosodiad rhywiol a brofwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ymhlith dynion a menywod.

Treisio oedd i'w gyfrif am ryw un o bob tair trosedd rywiol a gofnodwyd gan yr heddlu.

Heddiw, mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, math o drais rhywiol sy'n addasu neu'n anafu organau rhywiol benywod.

Mae hyn yn anghyfreithlon yn y DU, ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel trosedd yn erbyn hawliau dynol; mae'n nod gan y Cenhedloedd Unedig i ddiddymu'r arfer erbyn 2030.

Yn yr achlysur i lansio'r ymgyrch, bydd y gynulleidfa yn clywed gan oroeswyr, a fydd yn siarad am eu profiadau eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £5.25miliwn i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn 2020-2021. Yn 2019-20, darparwyd £120,000 ar gyfer sefydliadau a oedd yn delio â thrais rhywiol er mwyn lleihau'r rhestrau aros am sesiynau cwnsela.

Dywedodd Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig: "Mae trais rhywiol yn mynd ymhell y tu hwnt i'r goroeswyr eu hunain. Mae'n effeithio ar y bobl sydd agosaf atyn nhw ac mae'r canlyniadau i gymunedau a chymdeithas ehangach yn ysgubol.

"Mae trais rhywiol yn gymhleth ac i'w weld ym mhob ardal o bob cymuned ledled Cymru. Mae angen inni sicrhau, lle bynnag a sut bynnag y mae dioddefwyr yn chwilio am gymorth, fod modd rhoi cefnogaeth iddyn nhw a'u teuluoedd.

"Bydd ymgyrch heddiw yn cael ei lansio mewn partneriaeth â New Pathways, gwasanaeth cwnsela ac eirioli mwyaf Cymru ar gyfer menywod, dynion, plant a phobl ifanc y mae trais neu gam-drin rhywiol wedi effeithio arnyn nhw."

Mae New Pathways yn pwyso ar bobl i ymrwymo i'r addewid i godi llais i roi diwedd ar y tawelwch ynghylch trais rhywiol - p'un a ydyn nhw wedi dioddef eu hunain neu'n ymwybodol o'r peth o fewn eu teuluoedd, eu cymunedau, eu sefydliadau neu ar-lein.

Dywedodd Jackie Stamp, Prif Swyddog Gweithredol New Pathways: "Y llynedd, fe wnaeth New Pathways gefnogi mwy na 6,000 o bobl yng Nghymru yr oedd trais a cham-drin rhywiol wedi effeithio arnyn nhw. Ond rydyn ni'n gwybod mai dim ond crafu'r wyneb yw hyn; dyw'r mwyafrif helaeth o bobl byth yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd iddyn nhw ac maen nhw'n parhau i ddioddef yn dawel.Dydyn nhw ddim, felly, yn cael yr help y mae ei angen mor enbyd arnyn nhw.

"Mae angen inni ddysgu o wersi'r gorffennol. Mae angen inni greu cymdeithas lle dyw pobl ddim yn teimlo cywilydd; cymdeithas lle mae gyda nhw'r hyder i siarad heb ofni cael eu barnu nac ofni na fydd pobl yn eu credu.

"Mae ein neges heddiw yn syml ac yn glir. Mae trais rhywiol ym mhobman; ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn os daw pawb at ei gilydd a chodi llais. Mae ein Galwad i Weithredu i bawb mewn cymdeithas, am fod trais rhywiol yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob rhan o gymdeithas, a dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn ni wneud rhywbeth amdano."

Os ydych chi wedi profi trais rhywiol neu gamdriniaeth o unrhyw fath, ffoniwch linell gymorth gyfrinachol Byw Heb Ofn yn rhad ac am ddim ar 0808 8010 800 neu ewch i bywhebofn.llyw.cymru i anfon neges at gynghorydd 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.