English icon English

Cyhoeddi 26 o gamau i ddileu HIV a mynd i’r afael â stigma

Twenty-six actions for Wales to eliminate HIV and tackle stigma

Heddiw (dydd Mawrth 14 Mehefin) mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun uchelgeisiol sy’n nodi 26 o gamau gweithredu i gael gwared ar heintiadau HIV newydd, gwella ansawdd bywyd a rhoi terfyn ar stigma erbyn 2030.

Mae cynllun drafft 2023-26, sy’n un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, yn nodi ein dull gweithredu ar gyfer atal, profi, gofal clinigol yn y dyfodol, byw'n dda gyda HIV a mynd i'r afael â’r stigma sy'n gysylltiedig ag ef.

Bydd y Gweinidog Iechyd hefyd yn cyhoeddi cyllid o £3.9m i ddatblygu profion HIV ar-lein ymhellach, yn dilyn llwyddiant cynyddol y cynllun yn ystod y pandemig. Cafodd mwy o bobl eu profi am HIV rhwng Ionawr a Mawrth 2022 nag mewn unrhyw chwarter blaenorol. 

Cafodd y cynllun ei greu gan ein gweithgor ar gyfer y cynllun gweithredu HIV, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid o’r gymuned, y sector gwirfoddol a chymunedol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion a phobl sydd â HIV.

Mae cyfnod ymgynghori o 12 wythnos bellach wedi agor i bobl a sefydliadau roi sylwadau ar y cynllun.

Rhwng 2015 a 2021, gwelodd Cymru ostyngiad o 75 y cant yn y nifer a gafodd ddiagnosis newydd o HIV. Un ffactor arwyddocaol yn hyn oedd ein hymrwymiad, ers haf 2027, i ddarparu Proffylacsis Cyn-gysylltiad (PrEP) i unrhyw un sydd ag angen clinigol.

Yn 2021 cafodd 48 o bobl o’r newydd ddiagnosis o haint HIV yng Nghymru a chafodd tua 2,800 o bobl ofal am HIV yng Ngymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

"Rydym wedi dod yn bell ers dyddiau tywyll yr 1980au – a ddarluniwyd mor gofiadwy y llynedd yn It's a Sin ar Channel 4 – pan oedd anwybodaeth a chreulondeb tuag at bobl â HIV yn beth cyffredin.

"Does dim lle i anwybodaeth nac anoddefgarwch yn y Gymru fodern ac mae'r cynllun hwn yn amlinellu camau gweithredu i fynd i’r afael â hyn.

"Gan weithio gyda phartneriaid, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth yng Nghymru ac rydym yn falch o'r gostyngiad sylweddol yn y nifer sy’n cael diagnosis newydd o HIV.

"Mae mwy i'w wneud, a thrwy weithredu'r camau hyn galllwn wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl sy'n byw gyda HIV ac i ddiogelu cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol rhag y feirws. Rwy'n annog unrhyw un sy'n byw gyda HIV neu sydd â phrofiad o weithio gyda phobl sydd â’r feirws i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad."

Mae'r camau gweithredu'n cynnwys sicrhau mwy o fynediad at gondomau a PrEP, cael gwared ar rwystrau rhag profi, datblygu rhaglen gymorth genedlaethol gan gymheiriaid, a chreu rhaglen ymwybyddiaeth o HIV, gan gynnwys ei chyflwyno i’r cwricwlwm ysgolion.

Yn dilyn llwyddiant Fast Track Caerdydd a'r Fro, cynllun cydweithredol rhwng cyrff cyhoeddus a greodd Wythnos Profi HIV Cymru ac a dreialodd wasanaethau newydd, mae'r cynllun hefyd yn argymell cyflwyno cynllun llwybr carlam cydweithredol ar gyfer Cymru gyfan.  

Y nod yw gwneud Cymru'n Genedl Llwybr Carlam, gan gefnogi rhwydweithiau rhanbarthol o grwpiau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol i helpu i gyrraedd y nod o ddim diagnosis newydd o HIV a dim stigma erbyn 2030.

Dywedodd Gian Molinu, Cadeirydd Fast Track Caerdydd a'r Fro:

"Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod mai cydweithio a chynhwysiant yw'r ffordd ymlaen ac wedi ymrwymo i annog ffyrdd newydd o weithio. Mae'n hanfodol bod pobl sydd â HIV a'r cymunedau sy’n gweld yr effaith fwyaf yn cael dweud eu dweud yn y cynlluniau hyn, felly rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad."