English icon English

Agenda werdd Cymru: Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Wales’ green agenda: First Minister to announce Welsh Government’s legislative programme

Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yw ffocws clir Llywodraeth Cymru wrth i'r Prif Weinidog Mark Drakeford baratoi i gyhoeddi'r Biliau newydd i'w cyflwyno yng Nghymru yn y flwyddyn i ddod.

Wrth siarad yn y Siambr yn ddiweddarach heddiw, bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi y bydd pob un o'r pum Bil a gyflwynir yn ail flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth yn helpu i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac yn cefnogi'r amgylchedd.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn edrych i'r dyfodol ac yn nodi bwriad y llywodraeth i gyflwyno nifer o Filiau diwygio pwysig, a gaiff eu cyflwyno o drydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol.