English icon English
Building safety pic-2

Cynllun cymorth newydd yn cael ei lansio i helpu'r rhai mae problemau diogelwch tân yn effeithio arnynt

New support scheme launched to help those affected by fire safety issues

Mae cynllun newydd i helpu'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i broblemau diogelwch tân yn cael ei lansio heddiw.

Cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn agor am 10am ar ddydd Llun 27 Mehefin.

Bydd y cynllun newydd yn darparu cymorth annibynnol wedi'i deilwra i lesddeiliaid mewn cartrefi yr effeithir arnynt.

Mae wedi'i dargedu at lesddeiliaid sy'n berchen-feddianwyr a phreswylwyr sydd wedi cael eu dadleoli, ond cadarnhaodd y Gweinidog y byddai ceisiadau'n cael eu monitro'n rheolaidd ac y byddai cymhwysedd yn cael ei adolygu i sicrhau bod y 'rhai y mae angen y cymorth arnynt fwyaf yn cael mynediad at y cynllun'. 

Dywedodd y Gweinidog: "Heddiw rydyn ni'n lansio'r Cynllun Cymorth i Randdeiliaid, a fydd yn helpu'r rhai y mae angen cymorth arnynt fwyaf.

"Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n partneriaid allanol a'r arbenigwyr sector sydd wedi ein helpu ni i ddatblygu'r cynllun hwn mor gyflym.

"Mae eu cymorth a'u gwaith caled wedi bod yn hanfodol wrth benderfynu ynghylch y meini prawf cymhwysedd a'r prosesau cymorth cywir."

Bydd pob lesddeiliad sy'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn bellach yn derbyn cyngor gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol, gyda'r costau llawn yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyngor yn eu helpu i wneud y penderfyniad sy’n gywir iddyn nhw ac, os mai gwerthu eu heiddo yw'r opsiwn cywir, bydd Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i werthu eu heiddo am bris marchnad teg.

Bydd canllawiau llawn ar y cynllun, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru am 10am heddiw.

Aeth y gweinidog yn ei blaen: "Rhaid i'r gwaith o fynd i'r afael â diffygion diogelwch tân mewn adeiladau uchder canolig ac uchel iawn fynd y tu hwnt i gladin, i sicrhau bod yr adeiladau hyn mor ddiogel ag y gallant fod.

"Dyma fu ein bwriad o'r dechrau un ac, er ei fod yn gwneud nodi problemau ac wedyn gweithredu i'w datrys yn fwy cymhleth o lawer, dyma'r opsiwn cywir.

"Nid oes unrhyw atebion cyflym na hawdd, ond nid oes lle ar gyfer cyfaddawdu wrth sicrhau atebion cywir a chynaliadwy.

"Gallai unrhyw beth llai arwain at ragor o broblemau'n codi, ac mae'n bwysig imi ein bod yn datrys y problemau hyn unwaith ac am byth.

"Rhaid cael hyn yn iawn – i ddatrys y broblem hon nawr ac ar gyfer y dyfodol."