Skip to main content

TfW’s Craidd Alliance shortlisted for award

05 Gor 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a’i bartneriaid cyflenwi seilwaith Amey Infrastructure Wales, Alun Griffiths Ltd, Balfour Beatty a Siemens Rail ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Newyddion Adeiladu yn y categori ‘Rhagoriaeth Cadwyn Gyflenwi’.

Mae'r Gynghrair Craidd wedi dod at ei gilydd i gyflawni Prosiect Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd; gan ffurfio rhan bwysig o brosiect Metro De Cymru i wella ac adnewyddu asedau presennol ar draws y rhanbarth. Mae hwn yn brosiect datblygu economaidd gwerth £738m i alluogi gwasanaethau amlach, mwy o gapasiti, profiad gwell i gwsmeriaid a seilwaith newydd mwy gwyrdd, mwy cynhwysfawr a chymhleth yng Nghymru ers cenhedlaeth. Bydd hyn yn gwella cysylltedd yn sylweddol ledled De Cymru ac yn darparu mynediad at swyddi, gweithgareddau hamdden a chyfleoedd eraill.  

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Fel Uwch Swyddog Cyfrifol y Gynghrair, rwy’n falch iawn o weld y Gynghrair Craidd yn cael ei chydnabod am y gwaith caled a’r gwaith cydweithredol parhaus sy’n cael ei wneud, ac rwy’n falch o gael dathlu llwyddiannau ein cadwyn gyflenwi drwy gydnabod ein perfformiad rhagorol.

“Mae pwysigrwydd cynnwys y gadwyn gyflenwi i gefnogi’r Gynghrair wrth gyflawni prosiectau, rheoli cyfleoedd a risgiau yn hanfodol, felly, mae gweithio’n agos gyda phartneriaid y gadwyn gyflenwi yn hanfodol.

“Llongyfarchiadau enfawr i'r Gynghrair Craidd a’n cadwyn gyflenwi am wneud i hyn ddigwydd a phawb arall sy’n ein cefnogi wrth i ni weithio’n galed i drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ac adeiladu Metro De Cymru, a dymunaf bob lwc i bawb ar gyfer y noson wobrwyo.” 

Ar 29 Tachwedd 2021, llwyddodd y Gynghrair Craidd i gael ardystiad ISO44001 mewn Systemau Rheoli Cysylltiadau Busnes Cydweithredol ar 29 Tachwedd. Craidd yw’r Gynghrair Rheilffyrdd gyntaf yn y byd i gael ein hardystio’n ffurfiol. Mae ISO yn ardystiad a gefnogir gan y llywodraeth drwy’r British Assessment Bureau ar gyfer safonau ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol. 

Bydd seremoni Gwobrau Newyddion Adeiladu yn cael ei chynnal ar 14 Gorffennaf 2022.

Llwytho i Lawr