- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
28 Meh 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi creu canolfannau cyrraedd yng ngorsafoedd rheilffordd Caerdydd a Wrecsam i helpu gwladolion o Wcráin.
Mae’r ystafelloedd yn y gorsafoedd rheilffordd wedi cael eu hailwampio ac maent yn darparu cyfleusterau sy’n cynnwys ardal i blant. Gall yr Wcreiniaid sy’n ffoi rhag rhyfel ddefnyddio’r cyfleusterau hyn wrth gyrraedd y ddinas cyn symud ymlaen i ganolfannau croeso Llywodraeth Cymru neu at deulu, ffrindiau neu noddwyr.
Mae’r canolfannau cyrraedd yn cael eu cefnogi’n llawn gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae rhoddion wedi cael eu derbyn yn garedig gan Sainsburys Cymunedol y Coed Duon ym Mhontllan-fraith.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Yn TrC, rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rheini sy’n chwilio am loches, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y canolfannau cyrraedd rydyn ni wedi’u creu yn ein prif orsafoedd yng ngogledd a de Cymru o fudd i’r bobl sydd eu hangen.
“Fe fyddan nhw’n darparu lle diogel a chyfforddus i’r rheini sy’n cyrraedd Cymru.”
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Mae Cymru’n falch o fod yn Wlad Noddfa ac rwy’n falch bod TrC wedi gallu cynnig canolfan i ffoaduriaid o Wcráin gadw’n ddiogel rhag y gwrthdaro ofnadwy hwn, gan roi cyfle iddynt ymlacio a chasglu eu meddyliau cyn symud ymlaen i aros gyda theulu, ffrindiau a noddwyr.”
O 17 Mawrth 2022 ymlaen, mae pob ffoadur, yn cynnwys y rheini sy’n dianc rhag y gwrthdaro parhaus yn yr Wcráin a ffoaduriaid eraill, wedi gallu teithio am ddim ar wasanaethau rheilffyrdd TrC.
Gall dinasyddion o Wcráin hawlio teithio am ddim drwy ddangos pasbort o Wcráin i oruchwylwyr a staff yr orsaf. Gall pob ffoadur arall deithio am ddim wrth gyflwyno dogfennau statws.
Nodiadau i olygyddion
I ffoaduriaid sy’n defnyddio’r cynllun teithio am ddim, rhaid i’r dyddiad teithio fod o fewn chwe mis i ddyddiad y dogfennau statws perthnasol.
Bydd y cynllun teithio am ddim yn rhedeg am 6 mis i ddechrau (tan 16 Medi 2022).