English icon English

Dirprwyaeth o Japan yn gweld potensial ynni carbon isel yng Ngogledd Cymru

Japan Delegation sees North Wales low-carbon energy potential

Mae dirprwyaeth o Gymdeithas Ynni Gwynt Japan wedi bod yn ymweld â Gogledd Cymru yr wythnos hon er mwyn gweld rhai o’r datblygiadau cyffrous sy’n mynd rhagddynt yn yr ardal.

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2001 ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o blith rhai o gwmnïau ynni gwynt mwyaf blaenllaw Japan. 

Treuliodd y grŵp o 27 o gynrychiolwyr dri diwrnod yn yr ardal ac roedd eu taith yn cynnwys dysgu am brosiectau newydd a phresennol. Aethant ar ymweliadau i M-Sparc, Minesto, Faun Trackway, Mona Lifting, y ddau borthladd yng Ngogledd Cymru, Neuadd Mostyn, Prysmian Cables, Offshore Renewable Catapult, Jones Brothers Engineering, Workplace Worksafe ac AMRC Cymru.

          Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r ymweliad gan Gymdeithas Ynni Gwynt Japan. Rydym wedi gweld datblygiadau cyffrous yn dwyn ffrwyth yma yng ngogledd Cymru, gan gynnwys M-Sparc ac AMRC Cymru, sy’n darparu sylfaen i gwmnïau archwilio’r technolegau diweddaraf.

          “Mae Gogledd Cymru, yn benodol, mewn sefyllfa dda i arwain y ffordd o ran cynhyrchu ynni carbon isel, a chaiff cysylltiadau defnyddiol eu meithrin ar gyfer y dyfodol drwy’r ymweliad hwn. Rwyf wrth fy modd hefyd eu bod wedi cael cyfle i flasu ac yfed ein cynnyrch lleol, gan gynnwys ymweld â distyllfa chwisgi Penderyn.”

          Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae cysylltiadau agos rhwng gogledd Cymru a Japan. Rydym yn gwybod, er enghraifft, am berthynas glòs iawn â thref Conwy o ganlyniad i efeillio dau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO – y tro cyntaf a’r unig dro i hynny ddigwydd – sef Castell Himeji yn Hyogo a Chastell Conwy, y gwnaethant ymweld ag ef yn ystod eu taith, ynghyd â chlywed am y diwylliant a’r iaith.

          “Mae’r ymweliad gan y ddirprwyaeth yn cynnig cyfle i gryfhau’r berthynas honno ymhellach ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd ym maes cynhyrchu ynni carbon isel. Rwy’n gobeithio y gallwn rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu gyda nhw oherwydd yng Nghymru y cynhaliwyd y prosiectau ynni gwynt ar y môr cyntaf yn y DU. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r ymweliad hwn am roi o’u hamser a’u hymdrech wrth gefnogi’r daith hon, ac edrychwn ymlaen at groesawu rhagor o gynrychiolwyr o Japan dros y misoedd i ddod.”

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Cymdeithas Ynni Gwynt Japan, Yoshinori Ueda, “Daethom i Gymru i gael dealltwriaeth well o’r diwydiant ynni gwynt ar y môr oherwydd y cafodd y prosiectau ynni gwynt ar y môr cyntaf eu cynnal ger arfordir gogledd Cymru. Cawsom gyfle i ddysgu a gweld y prosiectau hyn yn ogystal â dysgu am gyfleoedd yng Nghymru yn y dyfodol. 

“Megis dechrau y mae’r diwydiant ynni ar y môr yn Japan, ac mae diddordeb mawr gennym mewn datblygu ein partneriaeth â Chymru yn y sector hwn, a’r sector carbon isel, gan adeiladu ar y berthynas gadarn rydym eisoes wedi’i sefydlu. Hon oedd y daith gyntaf i Gymru i’r mwyafrif o aelodau Cymdeithas Ynni Gwynt Japan. Dros y tri diwrnod rydym wedi’u treulio yma yng Ngogledd Cymru, rydym wedi clywed gan y diwydiant gweithgynhyrchu, datblygwyr a pherchnogion porthladdoedd, a byddwn ni nawr yn mynd â’r wybodaeth hon yn ôl gyda ni i’w hystyried ymhellach. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chymru eto.”