English icon English
Pel droed addysg FAW

Pêl-droedwyr Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i herio aflonyddu rhywiol ar-lein

Cymru footballers and Welsh Government team up to tackle online sexual harassment

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru wedi lansio fideo newydd heddiw, sy’n cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru, i geisio helpu i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein.

Mae'r fideo, ‘Codi Llais: Aflonyddu Rhywiol Ar-lein', yn gwneud inni feddwl drwy rannu sgyrsiau rhwng rhai o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru fel Joe Allen, Lily Woodham, Esther Morgan a Joe Morrell. Mae’n annog pobl ifanc i siarad am aflonyddu rhywiol ar-lein ac yn dangos pa mor bwysig yw hi i fechgyn a dynion herio’r math hwn o ymddygiad.

Mae'r ffilm yn hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch ac mae cyngor pellach i warcheidwaid, plant ac addysgwyr ar gael ar Hwb, y platfform dysgu digidol i ysgolion Cymru.

Mae'r fideo ar aflonyddu rhywiol ar-lein yn un o gyfres o dri fideo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Hwb, gyda sgyrsiau'n ymdrin â chasineb at fenywod ar-lein, pwysigrwydd herio agweddau a rhoi gwybod yn ddiogel am ymddygiad amhriodol.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y gorffennol ar godi ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol eraill a’u herio, gan gynnwys lansio adnoddau addysgol unigryw a ffilm bwerus gyda thîm Merched Hŷn Cymru yn herio casineb at fenywod ar-lein.

Bu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn ymweld ag Ysgol Gymunedol Porth yn ddiweddar, lle ymunodd â disgyblion mewn gwers ar herio’r broblem o aflonyddu rhywiol ar-lein, a lle cafodd y fideo newydd ei weld gyntaf gan ddisgyblion a staff ysgol.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae aflonyddu rhywiol ar-lein wedi dod yn fater cynyddol gyffredin a heriol, ac yn un all gael effaith anferth ar bobl sy’n gorfod ei ddioddef. 

“Bydd y fideo newydd yn galluogi ein hymarferwyr addysg i gefnogi sgyrsiau pwysig gyda phobl ifanc am ddifrifoldeb y mater – beth mae’n ei olygu, sut i roi gwybod am ymddygiad amhriodol a sut i gael cyngor pellach, drwy ein platfform Hwb i ysgolion

“Mae pêl-droedwyr rhyngwladol Cymru, â’u llwyddiant digynsail ar y cae, yn fodelau rôl mor gryf i blant a phobl ifanc, felly mae’n wych eu bod yn arwain drwy esiampl drwy siarad am y mater hwn.” 

Dywedodd Rheolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Sian Jones:

"Mae'n wych gweld ein chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd yn dod at ei gilydd ac yn defnyddio eu platfform i drafod y mater pwysig hwn.

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel ar y cae ac oddi arno, ac mae gweithio gyda'n chwaraewyr fel modelau rôl ac â phartneriaid allweddol fel Llywodraeth Cymru yn hanfodol i'n helpu i gyflawni hyn. Rydym am i blant a phobl ifanc deimlo'n gyfforddus i siarad am faterion fel aflonyddu rhywiol ar-lein a gwybod sut i geisio cymorth pellach, os oes angen."

Dywedodd Joe Allen, chwaraewr Cymru ac Abertawe:

"Mae wedi bod yn frawychus clywed faint o ferched a menywod ifanc sy'n profi aflonyddu rhywiol ar-lein. Mae wedi dangos mewn gwirionedd bod angen mwy o addysg ar y pwnc ac ar raddfa pethau.

"Mae cymaint o waith i'w wneud i roi terfyn ar yr ymddygiad hwn, ond rwy'n gobeithio y bydd y sgyrsiau rhyngof i a'm cyd-chwaraewyr yng Nghymru yn annog pobl i herio'r ymddygiad hwn. Ac i'r rhai a allai fod yn dioddef y math hwn o ymddygiad, er mor galed yw hynny, mae ei riportio yn hollbwysig."

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Childnet International i gyhoeddi deunyddiau dysgu addas i blant ynghylch aflonyddu rhywiol ar-lein, sef ‘Dim ond jôc?’, ar gyfer plant 9-12 oed, a ‘Codi Llaw, Codi Llais’, ar gyfer y grŵp 13-17 oed. Mae pecyn hyfforddi yn cael ei ddatblygu i helpu athrawon gynyddu eu hyder o ran mynd i’r afael â’r mater. Mae pecyn hyfforddi yn cael ei ddatblygu i helpu athrawon i gynyddu eu hyder wrth fynd i'r afael â'r mater.

Gall plant a phobl ifanc hefyd gael cyngor am aflonyddu rhywiol ar-lein, gan gynnwys sut mae'n edrych, sut i reportio yr ymddygiad hwn a sut i gael help yn ardal 'Materion a phryderon ar-lein' Hwb. Cafodd y cyngor a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ei gyd-gynllunio gyda phlant a phobl ifanc, ac fe'i lluniwyd gan ymchwil Llywodraeth Cymru i'w profiadau a'u pryderon ar-lein a rhai o'r rhwystrau i gael cymorth.