English icon English
UHQ WindTower with Logos Extrac 1-2

Cymru, gwlad sy’n arloesi: Cwmni ym Maglan a Llywodraeth Cymru’n cydfuddsoddi i ddatblygu syniad digynsail yn y DU ym maes technoleg ffonau symudol

Wales, a nation of innovation: Baglan company and Welsh Government co-invest to develop UK ‘first’ in mobile technology

  • Mae Crossflow Energy yn dylunio mastiau ffonau symudol sy’n arwain y byd, sy’n defnyddio pŵer o dyrbin gwynt arloesol, a allai fynd i’r afael ag ardaloedd lle nad oes signal a helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
  • Bellach mae’r cwmni’n denu sylw darparwyr telathrebu o bob rhan o’r byd
  • Mae cwmnïau yng Nghymru yn dylunio ac yn masnacheiddio cynhyrchion newydd arloesol diolch i gymorth arloesi gan Lywodraeth Cymru
  • Mae’r Gweinidog wedi lansio ymgynghoriad ar strategaeth draws-lywodraethol newydd i Gymru.

Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae cwmni yn Ne Cymru ar flaen y gad ar ôl datblygu mast ffonau symudol newydd sy’n defnyddio pŵer o dyrbin gwynt arloesol. Mae ganddo’r potensial i helpu i gyflawni targed sero net uchelgeisiol Cymru a chyflwyno cysylltedd telathrebu i fannau gwledig lle mae diffyg signal.

Mae mast chwyldroadol Crossflow Energy o Faglan yn cynnwys tyrbin gwynt, paneli solar, a storfa batri ar y safle.

Hwn yw’r prosiect arloesol diweddaraf y mae cyllid o raglen SMART Llywodraeth Cymru, a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, wedi’i gefnogi.

Mae prosiect Crossflow yn enghraifft berffaith o’r ffordd gyfannol mae’r cymorth hwn yn gweithio:

  • Gwnaeth arbenigwr arloesi o Lywodraeth Cymru feithrin perthynas un i un â’r cwmni. Gwnaethant gydweithio ar y cyd i lunio ceisiadau am grantiau gwerth bron £1 miliwn drwy rowndiau cyllido ymchwil a datblygu SMART Cymru amrywiol
  • Pan oedd angen i’r cwmni ymgymryd â chydweithredu academaidd penodol, cafodd ei gyflwyno i Brifysgol Abertawe
  • Pan oedd y dechnoleg yn barod i’w masnacheiddio, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Crossflow i Vodaphone, sydd bellach yn dechrau cyflwyno’r dechnoleg.
  • Gan ddechrau gydag arddangoswr yn Sir Benfro, mae Crossflow bellach eisiau darparu signalau ffôn symudol i gymunedau ledled Cymru gan ddefnyddio ynni cynaliadwy, glân, ac mae ganddo gynlluniau i werthu’r dechnoleg yn fyd-eang.

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd o bron traean o’r 486 o gwmnïau a gefnogwyd gan SMART hyd at 2021, cafodd cyfanswm o 3,000 o swyddi newydd eu creu – tuag 19 o swyddi fesul busnes – gyda thwf cyfartalog mewn trosiant o £3.8 miliwn fesul busnes. Mae’r ffigurau hyn yn tyfu o hyd wrth i’r effeithiau buddiol o ganlyniad i arloesi barhau o fewn busnesau.

Rhwng 2015 a 2020, gwnaeth buddsoddiad gwerth £73 miliwn gan Lywodraeth Cymru a’r UE mewn rhaglenni SMART ddenu £287 miliwn o’r sector preifat, gan gefnogi mwy na 1,450 o brosiectau ymchwil a datblygu newydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Diolch i raglenni arloesi a ariannwyd gan yr UE, mae busnesau ledled Cymru wedi gallu datblygu eu syniadau newydd amlinellol a chyflwyno nwyddau a gwasanaethau newydd, arloesol a dynamig. Mae eu harloesi, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn helpu i greu miloedd o swyddi newydd mewn cymunedau ledled y wlad.

“Mae llawer o’r nwyddau a gwasanaethau hyn bellach yn cael eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd, gan helpu i wella’r gymdeithas a hybu ein heconomi a’n ffyniant fel gwlad.

“Mae’r gwaith arloesol mae Crossflow ym Maglan yn ei wneud yn enghraifft wych o hyn. Mae eu cysyniad dylunio chwyldroadol ar gyfer mast ffonau symudol sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy bellach yn destun sylw a diddordeb o bedwar ban byd.”

Ond mae’r ffaith bod cyllid yr UE wedi dod i ben yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru fwlch gwerth £1.1 biliwn yn ei chyllideb rhwng nawr a 2025, sy’n bygwth maint a chyrhaeddiad y cymorth hwn ar gyfer maes ymchwil a datblygu.

Yn sgil hyn, mae’r Gweinidog yn galw ar i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewid, ar fyrder, i gynyddu’r lefel o fuddsoddiad cyhoeddus ym maes ymchwil a datblygu y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr gan 40% o leiaf erbyn 2030, a sicrhau bod pob rhan o’r DU yn cyrraedd ei tharged buddsoddi o ran ymchwil a datblygu o 2.4% o’r cynnyrch domestig gros erbyn 2027.

Nid oes gan brifysgolion a busnesau yng Nghymru fynediad i gynlluniau eraill a ariennir gan yr UE ychwaith, megis rhaglen Horizon a Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, sy’n golygu bod llai o gyllid o lawer ar gael ar gyfer prosiectau arloesi. Yn ystod rownd olaf cyllid yr UE (2014–20), cafodd mwy na £500 miliwn ei fuddsoddi ym maes ymchwil ac arloesi, gan gynnwys £69 miliwn ar gyfer y rhaglen SMART.

Gwnaeth busnesau yng Nghymru a gefnogwyd drwy raglenni SMART yn flaenorol ddenu buddsoddiad gwerth £9.2 miliwn gan Horizon 2020, sef rhaglen ymchwil ac arloesi fwyaf blaenllaw yr UE, a’u galluogodd i gydweithio mewn prosiectau rhyngwladol a oedd ar flaen y gad.

Rhwng 2014 a 2020, sicrhaodd Cymru gyllid gwerth €150 miliwn o raglen Horizon 2020, a chymerodd ran mewn prosiectau gwerth mwy na €2 biliwn gyda mwy na 6,000 o bartneriaid ar draws ystod eang o bynciau, o safonau diogelwch rhyngwladol ar gyfer nanodechnoleg ar helmedi, i ddatblygu cynhyrchion o wastraff amaethyddol. 

Yn dilyn y DU yn gadael yr UE, mae’n ansicr a fydd Cymru’n cymryd rhan mewn rhaglenni dilynol.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Rydyn ni eisiau gweld rhagor o gwmnïau o Gymru yn ffynnu drwy arloesi, ond mae cyllid yr UE wedi bod yn hanfodol bwysig o ran cefnogi prosiectau.

“I bob pwrpas, mae dull presennol Llywodraeth y DU yn cymryd £1.1 biliwn o’r arian a fu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn flaenorol, yn gwneud i gynghorau gystadlu am gyfran ohono, ac yn ei gyflwyno fel tystiolaeth o godi’r gwastad yng Nghymru. Nid codi’r gwastad mo hynny, ond gostwng y gwastad.

“Yr effaith uniongyrchol yw’r ffaith nad yw buddsoddiadau mawr mewn creu swyddi, cymorth busnes, ymchwil a datblygu, sgiliau a threchu tlodi bellach yn digwydd yng Nghymru, y byddent wedi digwydd fel arall.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth y DU, unwaith eto, i adfer yr £1.1 biliwn yng nghyllideb Cymru a pharchu datganoli. Rhaid i Weinidogion y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gyllido newydd sy’n gweithio o blaid Cymru, nid yn ei herbyn.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei Strategaeth Arloesi draws-lywodraethol newydd i Gymru, sy’n nodi sut mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda’i phartneriaid, yn anelu at ddatblygu diwylliant arloesi bywiog mewn Cymru sy’n gryfach, decach a gwyrddach. Gallwch ddweud eich dweud drwy fynd i  https://llyw.cymru/strategaeth-arloesi-i-gymru