English icon English
DJI 0019-2

Gwaith adeiladu wedi dechrau ar lwybr teithio llesol newydd ar gyfer safle cyflogaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Construction work underway at new active travel route for Bridgend employment site

Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar lwybr teithio llesol newydd ar gyfer y safle cyflogaeth strategol yn Brocastle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, diolch i fuddsoddiad gwerth £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y llwybr, sy’n gyfochrog â’r A48, ac oddeutu 3km i’r de-ddwyrain o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn cysylltu’r safle cyflogaeth strategol 116 erw yn Brocastle â chylchfan Tredŵr sydd 2km i’r gogledd-orllewin.

Bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu llwybr beiciau 2km o hyd, gosod cyrbau ac wyneb y llwybr, croesfannau ffordd â signalau, signalau traffig newydd yn lle’r rhai presennol a goleuadau stryd. Mae Llywodraeth Cymru’n darparu’r cyllid o £2miliwn ar gyfer y llwybr yn ei gyfanrwydd, a dyma ran olaf y gwaith seilwaith ehangach ar safle Brocastle.

Disgwylir cwblhau’r llwybr teithio llesol erbyn yr hydref. Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan y cwmni Alun Griffiths (Contractors) Limited, contractiwr peirianneg sydd wedi’i leoli yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Fel rhan o’n cynlluniau i greu economi fwy ffyniannus yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n galed i helpu i greu cyfleoedd gwaith newydd yn y cymunedau y mae pobl yn byw ynddynt.

“Mae’r safle cyflogaeth strategol rydym wedi’i ddatblygu yn Brocastle yn darparu lleoliad gwych er mwyn denu busnesau newydd i Ben-y-bont ar Ogwr. Rwy’n falch o allu cadarnhau bod rhannau o safle Brocastle eisoes dan gynnig. Mae gennym lawer o ymholiadau pellach yn yr arfaeth gan amrywiaeth o berchen-feddianwyr a datblygwyr.

“Bydd cwblhau’r llwybr teithio llesol yn gwella hygyrchedd y safle ymhellach ac yn ei wneud yn fwy deniadol i denantiaid newydd posibl.”

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae angen i ni fod yn eofn o ran y camau rydym yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, felly rwy’n falch ein bod wedi gallu buddsoddi £2 filiwn yn y cynllun teithio llesol newydd hwn, a fydd yn helpu i leihau’r defnydd o geir ac yn annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio i’r gwaith.”