- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
22 Gor 2022
Ddydd Gwener 15 Gorffennaf, cynhaliodd Cynghrair Craidd Trafnidiaeth Cymru ddigwyddiad Diogelwch Camu I Fyny, a welodd dros chwe chant o unigolion o bartneriaid cyflenwi seilwaith a chadwyni cyflenwi'r seilwaith yn ymuno.
Mae’r gwaith i symud Metro De Cymru yn ei flaen yn cynyddu’n gyflym iawn, yn enwedig ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd, ac mae bellach yn bwysicach nag erioed i sicrhau diogelwch y staff ar y rhwydwaith, cwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaethau a chymdogion cyfagos.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng nghanolfan chwaraeon Prifysgol De Cymru yn Ystâd Trefforest, yn cynnwys sgyrsiau diogelwch trawiadol, oedd yn amlygu’r angen am ymrwymiad personol i ddiogelwch, gyda’r gwaith yn dwysáu ar y prosiect trawsnewid enfawr.
Roedd themâu allweddol y dydd, DAROGAN / PREDICT risgiau y gall pobl ddod ar eu traws, ATAL / PREVENT risgiau rhag digwydd a PHEIDIWCH Â CHERDDED HEIBIO / DON'T WALK BY, i gyd yn cael eu cyfleu gan dystiolaeth bersonol y cyfranogwyr, oedd yn agoriad llygad ynghyd â hanesion difyr gan Ingnitionpoint! UK.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith y Rheilffyrdd: “Rwy'n hynod falch ein bod ni fel Cynghrair wedi trefnu digwyddiad mor llwyddiannus a hanfodol i'n holl weithwyr ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd.
“Yn ystod y dydd, clywsom straeon personol am ddigwyddiadau a galwadau agos dros y blynyddoedd. Mae'r straeon yn agoriad llygaid i'r posibilrwydd o ddamwain yn gallu digwydd ac yn gwneud i ni bwyso a mesur ein gweithredoedd tra ar safle, yn ogystal â'r canlyniadau a allai ddilyn.
“Fel rhan o’n gwaith i gyflawni’r Metro, mae trawsnewid y llinellau hyn yn gofyn am fynediad sylweddol i draciau rheilffordd i gwblhau ein gwaith peirianneg yn ddiogel. Gwneir hyn ar ffurf gweithio o dan eiddo, gwarchaeau neu gyda’r nos pan nad oes trenau’n rhedeg.
“Mae gweld cynnydd yn y gwaith a gyflawnwyd hyd yma yn gyflawniad rhyfeddol i bawb sy’n gysylltiedig, ond mae angen i ni sicrhau bod diogelwch yn flaenoriaeth allweddol ac yn ymrwymiad pwysig gan bawb. Yn y ffordd hon, gallwn barhau i adeiladu Metro De Cymru tra’n sicrhau bod ein gweithwyr, ein cwsmeriaid a’n cymdogion ar ochr y llinell, yn parhau i fod yn ddiogel bob amser.
“Rhagweld ac Atal. Peidiwch â cherdded heibio”