- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
21 Gor 2022
Cynghorir cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) i gynllunio eu teithiau’n ofalus yr wythnos nesaf gan y bydd gwasanaethau’n cael eu tarfu gan ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol cenedlaethol.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y cynhelir streic ddydd Mercher 27 Gorffennaf, ac mae ASLEF, yr undeb gyrwyr trenau, wedi cyhoeddi y bydd eu haelodau hwy’n mynd ar streic ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf.
Er nad yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r naill anghydfod na’r llall, bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar ei wasanaethau, yn enwedig ar 27 Gorffennaf, pan fydd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal.
Dydd Mercher 27 Gorffennaf
Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal o ganlyniad i’r anghydfod rhwng RMT a Network Rail, sy’n golygu na fydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu gweithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.
Trosolwg o wasanaethau TrC:
Gwasanaethau yng Nghymru a thros y ffin
- Yr unig wasanaethau fydd yn gweithredu fydd gwasanaeth gwennol o Gaerdydd i Gasnewydd, lle bydd un trên yn rhedeg pob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30 awr.
- Yn anffodus, ni fydd modd rhedeg unrhyw wasanaeth eraill.
Llinellau Craidd y Cymoedd
- Bydd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful ar ffurf gwasanaeth pob awr i bob cyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30 awr.
- Bydd trenau’n gallu rhedeg rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful cyn 07:30 o’r gloch ac ar ôl 18:30 o’r gloch (ac yna hyd at 20:30 awr oherwydd gwaith peirianyddol). Bydd trafnidiaeth ar y ffordd yn galluogi cwsmeriaid i deithio rhwng Caerdydd Canolog a Radur i bob cyfeiriad y tu allan i'r oriau hyn.
- Fodd bynnag, pwysig yw nodi y bydd y capasiti ar y trafnidiaeth ffordd yn hynod gyfyngedig.
- Cynghorir cwsmeriaid i ddisgwyl y bydd yr holl wasanaethau rheilffordd a ffordd yn hynod o brysur gan na fydd y gwasanaethau'n rhedeg mor aml.
Noder: Mae hyn yn wahanol i'r tridiau o weithredu diwydiannol ym mis Mehefin, lle roedd y gwasanaethau rheilffordd yn dechrau/gorffen yn Radur.
Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol.
Dydd Iau, 28ain Gorffennaf
Oherwydd patrymau sifft signalwyr Network Rail a'r heriau sylweddol o ran symud trenau a chriw i weithredu rhwng diwrnodau streic mae'n debygol y bydd tarfu.
Anogir cwsmeriaid i wirio cyn teithio. Bydd cynllunwyr teithio ar-lein yn cael eu diweddaru rhwng dau a phedwar diwrnod cyn diwrnod cyntaf y streic. Dyma drosolwg:
Gwasanaethau yng Nghymru a thros y ffin
Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 o'r gloch ar gyfer y gwasanaethau yng Nghymru na thros y ffin. Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cyntaf y dydd.
Llinellau Craidd y Cymoedd
Bydd pob un o'r gwasanaethau cyntaf y dydd fydd yn gadael Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn cael eu hamseru fel eu bod yn cyrraedd Radur ar ôl 07:00 o'r gloch. Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 o'r gloch ar unrhyw lein ac eithrio rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful - Radur.
Ni fydd unrhyw wasanaethau trafnidiaeth ffordd a gynlluniwyd ymlaen llaw ar waith cyn 18:30 awr ar Linellau Craidd y Cymoedd.
Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cyntaf y dydd.
Sadwrn 30ain Gorffennaf
- Bydd TrC yn rhedeg amserlen lawn ond mae gwasanaethau’n debygol o gael eu heffeithio gan weithredu diwydiannol cwmnïau trenau eraill. Gall hyn arwain at orfod canslo a gwneud newidiadau i wasanaethau ar fyr rybudd.
- Mae disgwyl i wasanaethau rhwng Abertawe – Casnewydd fod yn brysur iawn oherwydd amserlen gyfyngedig Great Western Railway. Cynghorir teithwyr i beidio â theithio oni bai bod angen.
- Mae disgwyl y bydd gwasanaethau TrC rhwng Amwythig - Birmingham yn brysur iawn gan fod y cynhelir Gemau’r Gymanwlad bryd hynny ac ni fydd West Midlands Trains yn rhedeg unrhyw wasanaeth. Cynghorir teithwyr i beidio â theithio oni bai bod angen.
Tocynnau cyfredol
Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau cyfredol nad ydynt yn docyn tymor sy'n ddilys ar gyfer teithio ddydd Mercher 27 Gorffennaf a dydd Sadwrn 30 Gorffennaf ddefnyddio'r tocynnau hynny unrhyw bryd rhwng dydd Mawrth 26ain Gorffennaf a dydd Mawrth 2 Awst. Anogir cwsmeriaid i osgoi teithio ar ddydd Gwener 29 Gorffennaf a dydd Sul 31 Gorffennaf gan y bydd disgwyl i wasanaethau fod yn hynod o brysur.
Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn, heb unrhyw ffi weinyddol. Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy’r broses Ad-daliad am Oedi (Delay Repay).
Yn y cyfamser, rydym yn atal gwerthu tocynnau Ymlaen Llaw ar gyfer dyddiadau’r gweithredu diwydiannol er mwyn lleihau nifer y bobl yr effeithir arnynt. Rydym yn cynghori cwsmeriaid i ymweld â gwefannau TrC neu Traveline, a gwefannau gweithredwyr eraill, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Nodiadau i olygyddion
Bydd llefarwyr Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru ar gael i'w cyfweld ddydd Mawrth 26ain, dydd Mercher 27ain a dydd Gwener 29ain Gorffennaf ar yr amseroedd canlynol:
- Dydd Mawrth 26ain Gorffennaf rhwng 12-2pm.
- Dydd Mercher 27ain Gorffennaf rhwng 7-9am.
- Dydd Gwener 29ain Gorffennaf rhwng 12-2pm.
Bydd ceisiadau i ffilmio mewn gorsafoedd y tu allan i’r oriau hyn yn cael eu derbyn ond rhaid cytuno ar y trefniadau ymlaen llaw gyda Swyddfa’r Wasg TrC. Ni fydd modd cael mynediad i'r platfformau y tu allan i’r amseroedd uchod.